Little Haven Tua’r Tir/Strawberry Hill

Teithiau Byr

Little Haven Tua’r Tir

PELLTER: 1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Broad Haven 311, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Caeau ag anifeiliaid, lôn wledig dawel, a pheth cerdded ar yr heol. 3 sticil, 1 giât mochyn.

Gadewch y maes parcio wrth yr allanfa i gerddwyr heibio i’r toiledau cyhoeddus. Trowch i’r dde arno i’r heol, cerddwch heibio’r bistro a’r siop, cadwch i’r chwith, yna trowch i’r dde ar unwaith i mewn i Heol Wesley.

Ar ddiwedd yr heol, croeswch sticil garreg a pharhewch yn syth ymlaen ar hyd ymyl cae, gan gadw’r cae ar y chwith. Anelwch am y sticil yng nghornel dde uchaf y cae diwethaf.

Croeswch y sticil a’r nant, parhewch yn syth ymlaen, gan anelu am y postyn marcio llwybr ar gopa’r llethr, a throwch i’r chwith ar y brig. Gan gadw’r mieri ar y chwith, anelwch am yr ail bostyn ffôn o’r chwith ar ben pellaf y cae, gan aros ar tua’r un lefel.

Pan fyddwch yn gallu ei gweld, anelwch am giât mochyn, gan basio trwyddi, a throwch i’r dde arno i’r lôn. Pan fydd y lôn yn troi i’r dde, parhewch yn syth ymlaen i’r ‘Coetir/Woodlands’, gan aros ar y lôn darmac nes cyrraedd arwydd llwybr troed yn Byngalo Woodvale.

Trowch i’r dde, dilynwch y llwybr ac ychydig bach cyn giât cae metel, trowch i’r dde dros sticil a dilynwch y llwybr troellog i lawr y bryn. Wedi croesi’r bont a’r giât, trowch i’r dde ac wrth y
groesfan, trowch i’r dde yn ôl i mewn i’r pentref.

LITTLE HAVEN, STRAWBERRY HILL

PELLTER: 1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Broad Haven 311, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Llwybr arfordirol, serth mewn rhai mannau, peth cerdded ar yr heol. Grisiau, ond dim sticlau na giatiau mochyn.

Gadewch y maes parcio a throwch i’r chwith arno i’r heol. Wedi gadael y pentref a’r ardal 30 milltir yr awr, chwiliwch am giât wedi ei gosod yn ôl yn y clawdd ar y dde.

Dilynwch y llwybr sydd wedi treulio at grib y bryn a throwch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir. Trowch i’r chwith wrth y postyn marcio llwybr a dilynwch Lwybr yr Arfordir yn ôl i Little Haven.

Mewn dau fan mae’r llwybr yn ymddangos ei fod yn fforcio – ar y ddau achlysur, cymerwch y llwybr ar y chwith sydd agosaf at y môr. Ewch i lawr y grisiau, parhewch yn syth ymlaen ac, ar ôl y tŷ gwyrdd, trowch i’r dde.

Trowch i’r dde wrth y swyddfa bost, yn ôl at y maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM856126

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau