Landshipping/Coedcanlas

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Ffonio a Theithio Bloomfield (tymhorol 0800 783 1584)
CYMERIAD: Blaendraeth, caeau a da byw, isffyrdd (1.5 km)
CHWILIWCH AM: Capel Burnett’s Hill • treftadaeth lofaol, pyllau heb eu defnyddio/lagwnau • Cei Landshipping • golygfeydd dros yr aber
MWY O WYBODAETH: Llwybr rhwng Brickyard a Sam’s Wood yn ddarostyngedig i lanw uchel – gwiriwch y tablau llanw

Mae Landshipping yn bentrefan bach hyfryd ar lannau dwyrain y Cleddau. Ar un adeg, roedd ei hen gei gwag, filltir i’r de ble mae’r Daugleddau yn dargyfeirio, yn derfynfa fferi ac yn borthladd glo prysur.

Y ‘Garden Pit’ oedd safle trychineb glofaol ofnadwy 1844 pan dorrodd y môr i mewn i weithfeydd y mwynglawdd. Lladdwyd 42 person – llawer yn fenywod ac yn blant.

Mae’r ardal yn frith o weithfeydd mwyngloddio a lagwnau wedi eu boddi. Adferwyd Capel Burnetts Hill yn Martletwy gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri a gafodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2001.

Cyn hyn, nid oedd y capel bach wedi newid am 200 mlynedd. Mae yna olygfeydd gwych o’r ddyfrffordd.

Gwybodaeth gan y  BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN012118

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi