Great Castle Head

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.8 milltir (4.5 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Herbrandston/St Ishmaels 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Caeau, arfordir a choetir, 0.5 milltir (0.75 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Bryngaer Oes Haearn yn Great Castle Head • golygfeydd o ddyfrffordd Aberdaugleddau

Mae Great Castle Head yn cynnig golygfeydd gwych tros ddyfrffordd Aberdaugleddau, y porthladd a phurfa Valero. Sylfaenwyd y porthladd yn hwyr yn y 18fed ganrif ac ymhlith yr anheddwyr cynnar yr oedd helwyr morfilod o Nantucket, ffoaduriaid o Ryfel Annibyniaeth America.

Mae’r ddyfrffordd, sy’n harbwr naturiol gwych, wedi bod yn brysurdeb o longau ers sawl canrif. Fe fyddai masnachwyr Canoloesol yn hwylio o’r fan hon i borthladdoedd yn Lloegr a Ffrainc; adeiladwyd llongau ar gyfer y Llynges Frenhinol yn Aberdaugleddau ac yna, yn hwyrach, yn Noc Penfro, ac roedd yn bwynt ymffurfio ar gyfer gosgorddion Môr Iwerydd yn yr Ail Ryfel Byd.

Yn aml yn Sir Benfro, mae aneddiadau o’r Oes Haearn yn mynd law yn llaw gyda golygfeydd da fel y rhai yn Great Castle Head. Credir bod y gaer fwy na 2,000 mlwydd oed a’i bod yn amddiffynfa, yn anheddiad neu, efallai, y ddau.

O Great Castle Head mae’r llwybr yn ymlwybro ar hyd copa’r graig i Little Castle Head, ble mae yna gaer arall o’r Oes Haearn. O Little Castle Head mae’r llwybr yn dilyn glannau’r Sandy
Haven Pill, dyfrffordd y gellir ei chroesi ar droed pan fydd y llanw ar ei bwynt isaf.

Un o ffefrynnau’r arlunydd Graham Sutherland (1903-1980) oedd y ‘Pill’. Roedd Sutherland wrth ei fodd gyda Sir Benfro ac un o’i weithiau enwocaf yw’r darn abstract Entrance to a Lane,
a ysbrydolwyd gan un o lonydd bach y wlad ger Sandy Haven.

Roedd yr arlunydd wedi’i gyfareddu gan y cyferbyniad rhwng y coed tywyll a’r heulwen yn Sir Benfro. Ysgrifennodd: “Prin yr ydw i wedi gweld y cyferbyniad hwn rhwng yr elfennau mewn cwmpawd mor fach”.

Wrth i chi edrych, chwiliwch am adar y môr a rhywogaethau a geir ar dir fferm, fel melyn yr eithin – aderyn melyn, yr un maint ag aderyn y to, a welir yn aml yn yr Haf yn canu nerth ei adenydd o gopa’r cloddiau.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grif: SM850068

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau