Freshwater East/Bae Swanlake

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.1 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Coastal Cruiser (*galw a theithio)
CYMERIAD: Ymyl clogwyn, hawdd i gymedrol ond adrannau serth ym Mae Swanlake,
caeau, 270 llath (250 m) ar y brif ffordd, 1.0 milltir (1.6 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Clogwyni tywodfaen coch • golygfeydd gwych o’r arfordir • adar y môr yn nythu.

Mae’r traeth llydan tywodlyd wedi bod yn boblogaidd ymhlith y rheiny sy’n dod yma ar eu gwyliau ers degawdau, ond yn y canrifoedd a fu yr oedd Freshwater yn hoff le i smyglwyr.

Roedd smyglo yn rhan o’r economi lleol yn y 18fed a’r 19eg ganrif ac ar un adeg, roedd Castell Maenorybŷr, filltir neu ddau i’r dwyrain, yn cael ei ddefnyddio fel pencadlys gan griw enwog o
smyglwyr o Gernyw a fyddai’n glanio’r contraband ar draethau cyfagos a’i guddio mewn twnneli o dan y castell.

Mae’r twyni tywod yn Nwyrain Freshwater wedi dioddef yn y gorffennol wrth i ymwelwyr droedio drostynt, ond erbyn hyn maen nhw wedi cael eu hadfer a’u gwarchod.

Mae’r twyni’n gartref i ambell rywogaeth arbennig iawn o fywyd gwyllt, gan gynnwys gloÿnnod. Ar nosweithiau o haf mae’r pryfed bach yn dringo i dop darn o laswellt cyn “cynnau eu golau” – felly chwiliwch am begynau o olau gwyrdd tuag uchder eich crimog.

Ar y daith hwylus ar hyd copa’r clogwyni rhwng y ddau fae mae yna olygfeydd gwych o’r arfordir, ac mae’r llwybr ar hyd y lonydd yn gallu bod yn wledd i’r llygaid hefyd, yn enwedig pan fydd ochrau’r lonydd yn fwrlwm o flodau gwyllt lliwgar yn y gwanwyn.

Seaside village of Freshwater East

 

Mae’r daith yn eich tywys chi i Fae Swanlake, sy’n dawel fel arfer oherwydd dim ond ar droed y gellir ei gyrraedd. Wrth gefn y traeth chwiliwch am arwyddion traeth cynharach, gam yn uwch na’i olynydd.

Mae’r cyfordraeth yn atgof o adeg cyn Oes yr Iâ pan yr oedd lefel y môr o gwmpas Sir Benfro yn uwch nag y mae heddiw. Nid yw olion anheddiad dynol cynnar iawn wastad yn hawdd eu gweld.

Roedd helwyr-gasglwyr Sir Benfro yn Oes y Cerrig yn byw mor syml mai ychydig o olion sydd ar ôl o’u presenoldeb, ond weithiau mae archeolegwyr yn darganfod olion o’r gwastraff a adawyd wrth iddyn nhw weithio’r fflintiau i gael ymyl miniog.

Daethpwyd o hyd i ddarnau o fflint o’r math yma ym Mae Swanlake. Mae Tim Jones, cyn Barcmon Sector y De gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Mae Maenorbŷr a’r ardal gyfagos yn lle cyfareddol sydd â hanes diddorol.

Mae straeon y smyglwyr ymhlith y straeon mwyaf diddorol – er, hyd y gwn i, nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn i’w cefnogi nhw.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS031983

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau