Dwyrain Freshwater

Teithiau Byr

Freshwater East, Y Traeth

Pellter: 0.9 milltir (1.4 km)
Cyfeirnod map: SS021981
Cymeriad: Twyni tywod a thraeth. Dim sticlau. Grisiau byr, tywod.

Gadewch y maes parcio ar y pen agosaf at y traeth a chroeswch yr heol. Cerddwch tuag at y traeth am ychydig lathenni, yna trowch i’r chwith i’r trac tuag at y giât.

Ewch drwy’r giât a dilynwch Lwybr yr Arfordir trwy dwyni, trwy giât arall, gan barhau yn syth ymlaen. Dilynwch y llwybr tuag at fan gwylio, yna i lawr y tyle trwy’r coed.

Ar ddiwedd y coed, trowch i’r dde tuag at y traeth, yna trowch i’r dde ar waelod y grisiau a cherddwch yn ôl ar hyd y traeth hyd nes i chi gyrraedd nant.

Trowch i’r dde i’r llwybr concrit a chroeswch yr heol yn ôl i’r maes parcio.

FRESHWATER EAST, Y TWYNI

Pellter: 0.7 milltir (1.2 km)
Cyfeirnod map: SS018980
Cymeriad: Llwybrau naturiol dros y twyni tywod.
Dim sticlau. Arwynebau tywodlyd, graddiannau serth.

Cymerwch y trac i lawr y tyle wrth y mynegbost wrth ymyl Freshwater Inn. Parhewch i lawr y trac tuag at ddau fynegbost.

Anwybyddwch y mynegbost cyntaf a throwch i’r dde wrth yr ail un ar hyd llwybr glaswelltog, sy’n troi’n dywodlyd.

Ar bwys y mynegbost trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir a pharhewch yn syth ymlaen wrth y mynegbost nesaf.

Ar y gwaelod, ewch drwy’r giât a throwch i’r dde i fyny’r tyle, yna ar bwys y mynegbost, ger byngalo gwyn, trowch i’r dde.

Dilynwch y prif drac, trwy giât i’r chwith o’r ardd, a pharhewch i fyny’r tyle, gan anwybyddu’r llwybrau i’r chwith a’r dde.

Wedi cyrraedd y trac tarmac, trowch i’r chwith wrth y mynegbost a dilynwch y trac i fyny’r tyle yn ôl i’r man cychwyn.

Freshwater East, Dyffryn Leach

Pellter: 0.5 milltir (0.8 km)
Cyfeirnod map: SS023981
Cymeriad: Caeau a da byw, twyni tywod, golygfeydd o’r môr, graddiannau. Dim sticlau. Grisiau, graddiannau serth.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio i’r heol a throwch i’r chwith wrth y mynegbost ‘i Lwybr yr Arfordir’.

Dilynwch y trac i lawr y tyle tuag at y mynegbost wrth arwydd Parc Coffa Leach. Gadewch y trac a dilynwch y llwybr troed i lawr y tyle.

Wrth y mynegbost trowch i’r chwith i Lwybr yr Arfordir, gan ei ddilyn i fyny’r grisiau, yna trowch i’r chwith ychydig bach cyn y sticil.

Dilynwch y llwybr, sy’n dod yn goncrit, yn ôl i’r maes parcio

Dewch o hyd i deithiau'r Traeth a'r Twyni

Cyfeirnod Grid: SS021981

Dewch o hyd i daith Dyffryn Leach

Cyfeirnod Grid: SS018980

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau