Druidston

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.7 milltir (2.8 km) 45 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Caeau a da byw, golygfeydd arfordirol. Tri sticil.

O’r maes parcio trowch i’r chwith i’r heol tuag at Nolton ac ar ôl y tŷ ar y dde trowch i’r dde i lwybr ceffylau.

Yn Fferm Druidston, lle mae’r trac yn newid i darmac, trowch i’r chwith i drac llydan. Ewch drwy’r giât yn y cae, croeswch y nant, croeswch sticil a throwch i’r chwith, gan ddilyn ymyl y cae.

Yn yr hen chwarel, cymerwch y llwybr i’r chwith, gan ddilyn y nant. Croeswch y sticil a pharhewch yn syth ymlaen heibio ysgubor haearn rhychiog, croeswch sticil a throwch i’r chwith i’r heol.

Ar ôl Gwesty Druidston, trowch i’r dde i’r llwybr troed, ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr yn groeslinol ar draws y cae tuag at giât. Ewch drwy’r giât, dilynwch y llwybr ac ar ôl y giât trowch i’r chwith yn ôl i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM866169

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau