Dinbych-y-pysgod/Waterwynch

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.3 milltir (3.7 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Gwasanaeth bws Dinbych-y-pysgod 349/359/350/351/352/353/360/361/381/333/390, Gorsaf Rheilffordd
CYMERIAD: Rhwydd i gymedrol ond yn serth mewn rhai mannau, llwybrau ceffyl, Llwybrau beic, caeau a da byw, lonydd tawel, gall fod yn wlyb a mwdlyd mewn mannau,
RHYBUDD 0.2 milltir (0.3 km) prif ffordd, 0.1 milltir(0.15 km) isffordd, peth cerdded trefol
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o Fae Caerfyrddin, Traeth y Gogledd a phlastai trefol hardd, Traeth Waterwynch.

Taith gyda man cychwyn bendigedig, Traeth y Gogledd. Cyn cychwyn edrychwch ar ehangylch y traethau a’r creigiau, y mwyaf ohonynt fel petai yn cysgu, sef, Craig Goskar.

Nid yw’n cymryd amser hir cyn gadael maestrefi Dinbych y Pysgod a bod allan yng nghefn gwlad, gan ddringo gan bwyll i dir uchel Cornish Down.

I gael seibiant, stopiwch ac edrych nôl ar Ddinbych y Pysgod ac ehangder llydan Bae Caerfyrddin. Roedd anheddiad yma gyda’i gastell ei hun ymhell cyn i’r Normaniaid gyrraedd.

Mae enw Cymraeg y dref, Dinbych y Pysgod, yn golygu “the little fort of the fishes” a sonnir amdano gyntaf mewn cerdd o’r 9fed ganrif.

Mae adfeilion yr amddiffynfa ar Fryn y Castell, uwchben Traeth y Gogledd, yn dyddio o’r 12fed ganrif tra bod waliau’r dref wedi’u hadeiladu ganrif yn ddiweddarach.

Erbyn y 16eg ganrif roedd Dinbych y Pysgod yn borthladd pwysig, ond yn sgil y Rhyfel Cartref a phla yn y 1650au gwelwyd cyfnod hir oddirywiad.

Daeth hynny i ben pan ail anwyd y porthladd fel cyrchfan gwyliau. Mae’r daith yn archwilio cefn gwlad tonnog sy’n cyrraedd mor bell â’r man lle mae’r rheilffordd yn rhedeg trwy ddyffryn coediog Knightson Brook.

Cyrhaeddodd Rheilffordd De Cymru i Sir Benfro yn yr 1850au. Agorwyd cangen i Ddoc Penfro yn 1866, gan roi‘r cyfle i rai ar eu gwyliau i deithio i Ddinbych y Pysgod ar y trên.

Roedd dyfodiad y rheilffordd yn hwb i uchelgais y dref i fod yn gyrchfan gwyliau. Dechreuwyd y broses yn 1810 gan Syr William Paxton, ac amcan ei raglen adeiladu ef oedd troi Dinbych y Pysgod yn gyrchfan gwyliau ffasiynol.

Ychydig oddi ar y daith, mae Traeth Waterwynch yn gildraeth bychan o dywod a cherigos wedi’i amgylchynu gan glogwyni isel. Mae’r arfordir rhwng Waterwynch a Dinbych y Pysgod yn fan nythu i adar y môr, yn cynnwys gwylan y graig.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeiriad Grid: SN132012

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau