Dinas Tyddewi

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.8 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Hawdd i gymedrol, llwybrau troed naturiol a phalmant, lonydd tawel, llwybrau ceffylau, 0.9 milltir (1.5 km) o gerdded ar isffyrdd, RHYBUDD croesi’r brif ffordd mewn tri lle
CHWILIWCH AM: Eglwys Gadeiriol Tyddewi a’r cwm • Palas yr Esgob • hen fythynnod bach tlws • golygfeydd dros Ynys Dewi, Clegyr Boia (anheddiad hynafol) a Bae Sant Ffraid.

Mae’n rhaid bod y ddinas fechan hon, gyda’i heglwys gadeiriol ac olion palas yr esgob, yn un o’r llefydd mwyaf swynol ym Mhrydain.

Mae’r olygfa o giât yr eglwys gadeiriol yn wefreiddiol gyda’r eglwys gadeiriol ei hun ymhlyg yn y cwm isod ac, i’r gorllewin, amlinelliad Penmaendewi a Charn Llidi.

Mae’r rhan fwyaf o eglwysi cadeiriol yn dominyddu popeth sydd o’u cwmpas, ond adeiladwyd Tyddewi mewn cwm ar safle cymuned Gristnogol Dewi. Adeg ymosodiadau’r Llychlynwyr un o fanteision y lleoliad oedd ei fod yn anodd dod o hyd iddo.

Sefydlodd Dewi ei gymuned wrth ymyl yr Afon Alun yn y 6ed ganrif. Fe dyfodd mewn pwysigrwydd ar ôl ei farwolaeth ac, am ganrifoedd, fe fu pererinion yn teithio i dalu gwrogaeth i’w gysegrfa.

Canoneiddiwyd Dewi yn 1120 pan ddywedwyd bod dwy bererindod i gysegrfa’r saint cystal ag un i Rufain. Fe ddechreuodd gwaith ar gadeirlan fawr yn lle’r eglwys fonastig gynharach yn 1180.

Ailadeiladwyd, estynnwyd ac addurnwyd y gadeirlan wrth ymyl yr Alun dros y canrifoedd. Ychydig ar draws yr afon mae olion trawiadol Palas yr Esgob o’r 14eg ganrif. Olion sydd wedi bod yma ers yr 16eg ganrif ac mae bellach yn gartref i gymuned o jac-dos swnllyd a busneslyd.

Mae’r llwybr yn dilyn ardal goediog Merry Vale. Enw’r clegyr bach uwchlaw’r cwm yw Clegyr Boia ac mae’n frigiad o graig folcanig hen iawn.

Dywedir iddo fod yn gadarnle i wrthwynebydd Dewi Sant, y pennaeth Celtaidd Boia. Llwyddodd Dewi i droi dilynwyr Boia, ond nid y pennaeth paganaidd ei hun.

Fe fu farw yn un o ddilynwyr yr hen ffydd. Mae Tyddewi yn lle swynol ac mae yma ryw 200 o adeiladau rhestredig.

Yn y gorffennol, fe’i galwyd yn ddinas oherwydd ei chadeirlan, ond dim ond ers 1995 y mae’r bobl wedi gallu galw eu cymuned yn ddinas yn swyddogol.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM753252

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi