Cwm Gwaun

Teithiau Byr

Cwm Gwaun, Coed Tregynon

Pellter: 2.6 milltir (4.2 km)
Cyfeirnod map: SN045349
Cymeriad: Coetir, cerdded ar heolydd bach. 5 sticil.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio arno i’r heol.  Dilynwch yr heol ac ar ôl iddi droi i’r dde, chwiliwch am fynegbost sy’n pwyntio ymlaen a chymerwch y llwybr i’r coed.

Ewch trwy giât ar yr ochr chwith, yna wrth y mynegbost, trowch i’r dde, dilynwch y llwybr amlwg, croeswch y bont ac wrth y mynegbost nesaf parhewch yn syth ymlaen.

Croeswch sticil ar y dde, croeswch nant a dilynwch y llwybr i gyfeiriad y marciwr llwybr, yna croeswch nant a throwch i’r dde.

Ewch yn syth ymlaen wrth y mynegbost ac wrth y mynegbost nesaf trowch i’r dde dros sticil, gan anelu am y mynegbost o’ch blaen.

Croeswch ardal gorsiog ar foncyffion, croeswch bont gerdded a sticil, i’r sticil o’ch blaen. Trowch i’r dde arno i’r heol yn ôl i’r maes parcio.

COED GELLI-FAWR

Pellter: 1.6 milltir (2.6 km)
Cyfeirnod map: SN061346
Cymeriad: Llethrau coediog, caeau ag anifeiliaid, peth cerdded ar heolydd bach. 1 sticil, graddiannau serth, arwynebau anwastad.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio arno i’r heol a chadwch i’r chwith arno i’r trac mynediad.

Ewch drwy’r giât, a dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae, gan gadw’r clawdd ar y chwith, ewch drwy giât i mewn i’r cau nesaf, eto ar y llwybr wrth ymyl y cae gyda’r clawdd ar y chwith.

Ewch drwy’r giât nesaf i mewn i’r coed a dilynwch y llwybr ceffylau i lawr y tyle.

Ychydig bach cyn y giât, trowch i’r chwith yn siarp i lawr i’r heol. Trowch i’r chwith arno i’r heol a throwch i’r chwith,  ble mae’r heol yn troi i’r dde, arno i’r llwybr yn ôl i mewn i’r coed.

Ewch drwy giât ar yr ochr chwith, yna wrth y mynegbost trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr i fyny’r tyle.

Croeswch y sticil wrth ymyl y coed a throwch i’r chwith arno i’r llwybr wrth ymyl y cae, gan gadw’r clawdd ar y chwith, i’r giât yn ôl i’r maes parcio.

SYCHPANT, CWM BACH

Pellter: 0.9 milltir (1.4 km)
Cyfeirnod map: SN047352
Cymeriad: Cwm bychan a serth, caeau ag anifeiliaid. 3 sticil, graddiannau serth.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio ac yna trowch i’r chwith eto ar unwaith (trac mynediad at ‘Ffald y Brenin’) a dilynwch y trac mynediad i fyny at gopa’r bryn.

Trowch i’r dde, ychydig bach cyn cyrraedd adeiladau, a pharhewch yn syth ymlaen trwy sticil wasgu.  Yn raddol, trowch i’r chwith, gan gadw’r pwll ar y chwith, at sticil gyda marciwr llwybr.

Ewch yn syth o’ch blaen i fyny, croeswch sticil a pharhewch i fyny’r grisiau, trwy giât, ac yna trowch i’r chwith.

Ewch drwy’r giât ar y chwith, trowch i’r chwith ac yn i’r dde ar unwaith a dilynwch y llwybr glaswelltog i lawr y tyle.

Anwybyddwch y sticil ar y chwith ac wrth y mynegbost ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr sy’n lledaenu. Chwiliwch am giât ar y chwith ac ewch drwyddi yn ôl  lawr i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN045349

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi