Cwm Gwaun

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.2 milltir (8.4 km) 2 awr 15 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Coetir, caeau a da byw, esgyniadau serth ar lethrau’r cwm
CHWILIWCH AM: Coetir lled-naturiol hynafol o dan reolaeth.

Mae’r afon Gwaun yn codi ym Mynyddoedd y Preseli ac fe’i ffurfiwyd fel sianel dŵr tawdd ar gyfer y rhewlifoedd a oedd yn encilio ar ddiwedd Oes yr Iâ.

Mae isafonydd wedi cerfio dyffrynnoedd serth ag ochrau cul sy’n drwch o goed.

Yn yr haf, mae’r Gwaun yn nant sy’n troelli’n araf trwy ffen gwern (coetir gwlyb, corsiog gyda choed gwern yn dominyddu), dolydd dŵr (chwiliwch am yr erwain gyda’i arogl hyfryd fel mêl yn hwyr ym mis Awst/gynnar ym mis Medi) a gorlifdir.

Ar y llwybr uwchben Coed Sychpant ceir golygfeydd dros y dyffryn ac mae’r coed yn gynefin i adar fel pibydd y coed, y tingoch, y titw, cnocell y coed a’r  gwybedog brith.

Mae’r afon yn gartref i drochwyr ac i’r sigl-i-gwt. Mae adar ysglyfaethus fel y bwncath a’r cudyll coch hefyd yn gyffredin.

Os fyddwch chi’n ffodus, fe welwch chi ddyfrgwn wrth ymyl yr afon hefyd, ac mae’r ardal yn gadarnle ar gyfer y ffwlbart a’r pathew.

Mae Carol Owen, Parcmon Sector y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Dyma daith ragorol os ydych chi’n hoffi gwylio adar. Yn aml, fe welwch chi drochwyr yn pigo i mewn ac allan o’r dŵr sy’n llifo’n gyflym wrth iddyn nhw chwilio am fwyd.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod grid: SN045349

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi