Craig-y-borion

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.8 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhath 351 (1 km i’r de)  
CYMERIAD: Cymoedd coediog, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Golygfeydd hyfryd o’r arfordir • coetir.

 

Mae digon o gyfle i weld ffawna a fflora sy’n nodweddiadol o goetiroedd yng nghymoedd coediog anghysbell Craig-y-borion a Craig-y-borion Fach.

Ymhlith yr adar a welir yno mae’r titw tomos las, y titw mawr, y titw cynffon hir, yr asgell fraith, y robin, y dryw, cnocell y coed, cnocell y cnau, y dringwr bach, y frân, sgrech y coed a’r bioden.

Chwiliwch am gadnoid, wiwerod a chwningod. Pan fydd y tywydd yn dda mae yna olygfeydd hyfryd i lawr yr arfordir i Ynys Bŷr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Grid ref: SN155095

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi