Coed Benton

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.6 milltir (7.4km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Burton 308
CYMERIAD: Hawdd i ganolig, 1.0 milltir (1.6km) o lonydd tawel, traciau coetir ac isffyrdd, caeau a da byw, coetir, gall fod yn fwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Castell Benton (cartref preifat) • adar coetir • tirweddau bugeiliol • coed conifferaidd a choed collddail
MWY O WYBODAETH: Cadwch giatiau’r fferm yn glir yn y man parcio

Er gwaethaf eu dyhead i fod yn ‘fynyddoedd’ nid yw Mynydd Burton na’i gymydog Mynydd Williamston yn codi i fwy na 55 metr (180 troedfedd).

Tu hwnt i Fferm Mynydd Williamston mae’r rhan fwyaf o’r llwybr trwy goetir, cyfuniad o goed llydanddail a chonifferau sy’n rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y Cleddau mor bell â Port Lion.

Chwiliwch am yr heidiau mawr o ditwod tomos gleision a thitwod mawr,  sy’n chwilio copaon y coed am fwyd yn ystod dyddiau oer y gaeaf.

Yn yr haf mae’r coed yn fwrlwm o ganeuon teloriaid fel telor y coed a’r dryw felen, sy’n hedfan o Affrica i fridio yng nghymoedd coediog Sir Benfro.

Mae gan ddyfrffordd y Daugleddau sawl castell a adeiladwyd fel cadarnleoedd ond dros y blynyddoedd, daethant yn breswylfeydd caerog – mae Castell Benton yn un.

Credir i’r castell gael ei adeiladu i amddiffyn arglwyddiaeth Rhos ac efallai y bu’n gartref i deulu pwerus, teulu’r De la Roche. Mae’r tŵr arall yn dyddio o’r 13eg ganrif.

O ddiwedd y Rhyfel Cartref yn yr 17eg ganrif roedd y castell yn adfail ond cafodd ei adnewyddu yn y 1930au ac erbyn hyn mae’n gartref preifat sydd ddim ar agor i’r cyhoedd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM994059

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi