Clogwyni Penalun

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.6 milltir (4.2 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Penalun 349, Gorsaf rheilffordd ym Mhenalun
CYMERIAD: Cerdded ar gopa clogwyni, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Y frân goesgoch • clogwyni carreg galch
MWY O WYBODAETH: Llwybr dros y graig ar gau pan fydd tanio • Ffoniwch 01834 842358 am fanylion tanio a chau’r llwybr.

Golygfeydd arfordirol, hanes y Rhyfel Byd Cyntaf gwych a chlogwyni carreg galch egniol

Nodyn pwysig: Aiff y llwybr drwy Faes Penalun y Weinyddiaeth Amddiffyn. Pan fydd y faner goch yn chwifio a’r arwyddion wedi’u gosod, ni fydd mynediad o ganlyniad i saethu – bydd angen i chi ddefnyddio’r llwybr byr a ddangosir ar y map. Ffoniwch 01834 842358 am fanylion ynglŷn â’r saethu ac am y llwybr sydd ar gau.

Mae’r clogwyni carreg galch ym Mhenalun yn gartref i amrywiaeth o adar, gan gynnwys gwylan y graig, gweilch y penwaig a llawer o wylanod (penwaig gan fwyaf). Mae hefyd yn
enwog am y frân goesgoch.

Fe fyddwch chi’n gallu gweld y gwahaniaeth rhwng y frân goesgoch a’r jac-y-do hollbresennol oherwydd ei phig a’i choesau coch llachar, a’u galwad cras.

Mae yna olygfeydd gwych i fyny ac i lawr yr arfordir o Bwynt Giltar; i’r gorllewin fe allwch chi weld Pwynt Lydstep gyda’r ceudyllau oddi tano a Skrinkle Haven ble mae’r garreg galch yn cymryd lle’r hen dywodfaen coch yn y clogwyni. Fe allwch weld golygfeydd o Ynys Bŷr a Sant Margaret – hyd yn oed Ynys Wair ar ddiwrnod clir – allan tua’r môr.

I’r de ddwyrain mae yna olygfeydd dros y traeth a’r twyni tywod i Ddinbych-y-pysgod. O’r llwybr troed amgen (pan fydd y maes tanio wedi cau), drwy fynd i’r gogledd ddwyrain at bont y
rheilffordd, gallwch weld system ffosydd ymarfer unigryw o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle’r oedd milwyr yn cael eu hyfforddi cyn cael eu hanfon i ryfel yn Ffrainc.

Credir mai system ffosydd ymarfer Maes Tanio Penalun yw’r unig enghraifft gyflawn sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. mae bwrdd gwybodaeth gan Grŵp Hanes Penalun ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn esbonio’r tirwedd unigryw, hanesyddol a’i bwysigrwydd wrth hyfforddi milwyr ar gyfer maes y gad.

Cadwch olwg am y bwrdd hwn ger y postyn gwylio concrit yn ‘Valleyfield Top’ ar ymyl deorllewinol y Bryniau.

Defnyddiwyd Mae Tanio Penalun ar gyfer hyfforddiant milwrol er 1860, ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Ar hyn o bryd, mae’r tir hefyd yn cael ei reoli ar gyfer cadwraeth natur gan
Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS116991