Ceibwr i Bwll y Wrach

Taith Fer

PELLTER/HYD: 0.7 milltir (1.2 km) 40 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio) i Drewyddel – 0.9 milltir(1.4 km) tua’r tir
CYMERIAD: Dim sticlau,  graddiannau cymedrol ar y cyfan gyda rhai rhannau serth, byddwch yn ofalus gyda’r ymyl clogwyn serth sy’n agos at y llwybr.

Dechreuwch o’r man parcio anffurfiol lle mae’r heol yn mynd yn fwy llydan yng Ngheibwr.  Ewch i fyny’r allt (mor serth â 1 mewn 13 mewn mannau) am 200m, trowch i’r dde trwy rwystr cerbydau a cherddwch ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Roedd Bae Ceibwr yn arfer bod yn borthladd a wasanaethai Trewyddel a’r gymuned amaethyddol gerllaw. Wrth aber y nant, mae yna olion hen odyn galch.

Ganrif yn ôl, dim ond un nythfa atgenhedlu gwylanod y graig (fulmars) oedd ym Mhrydain.  Erbyn hyn, maen nhw’n nythu mewn sawl man ar hyd y darn yma o’r llwybr, ac mae eu niferoedd yn cynyddu.

Yn gyffredinol, mae’r graddiannau’n gymedrol ac yn bantiog ar hyd y rhan fwyaf o’r darn yma o’r llwybr.

Mae yna rai llethrau serthach gyda graddiannau o 1 mewn 15 am 20m; 1 mewn 10 i lawr am 45m; 1 mewn 5 i fyny am 12m ac 1 mewn 8 i fyny ac i lawr am 90m. Mae yna ddau fan gwlyb lle mae diferion wedi creu mannau mwdlyd.

Nid yw’r rhain wedi cael eu draenio am resymau sy’n ymwneud â chadwraeth ac mae yna gerrig camu yn eu croesi.

Pwll y Wrach yw un o’r nodweddion daearegol mwyaf trawiadol ar Arfordir Penfro. Mae’n hen ogof sydd wedi chwalu ac mae wedi ffurfio lle mae’r môr wedi codi’r siâl a’r tywodfaen meddal ar hyd ffald.

Mae’r ceudwll yn dal i gysylltu â’r môr ac mae’n fan poblogaidd iawn ar gyfer morloi a’r canŵydd mwy anturus.

Ar rai adegau o’r flwyddyn, fe allwch weld y frân goesgoch, rhywogaeth sy’n brin yn genedlaethol.

Gellir gweld y ffawtiau trawiadol i’r gogledd (Pen-yr-Afr), ar y llwybr yn ôl.  Torrwyd llawer o Lwybr yr Arfordir allan gyda pheiriannau yn y 1960au a gellir gweld y proffil yma yn hawdd yn y fan hon.

Er bod y Llwybr yn eithaf llydan, mae angen bod yn ymwybodol o’r gwymp sydyn i lawr tuag at y môr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN106457

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau