Borough Head

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Llwybr yr arfordir, llwybr gweddol hwylus ond mwy serth o Brandy Bay i Mill Haven, 1.6 milltir (2.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Bryngaerau Oes yr Haearn • cilfachau gydag enwau atgofus – ‘Brandy Bay’, ‘Dutch Gin’, ‘Foxes’ Holes’ • blodau’r gwanwyn ar yr arfordir • golygfeydd o’r arfordir.

Mae’r arfordir caregog i’r gorllewin o Little Haven yn lle gwych i gerdded copa’r clogwyni, ac mae yna olygfeydd gwych ar draws Bae Sain Ffraid i Benmaen Dewi ac Ynys Dewi.

Yn Sir Benfro mae gennym lawer o seintiau; yn yr achos hwn, credir mai Sain Ffraid yw’r Saint Brigid o Kildare. Ganed Brigid yn Iwerddon yn hwyr yn y 5ed ganrif a sylfaenodd leiandy yng Nghildare. Nid oes cofnod bod y saint wedi ymweld â Sir Benfro.

Fe all y môr fod yn ofnadwy ar hyd y ffin Ddeheuol hon ym Mae Sain Ffraid, ond yn draddodiadol yn Goultrop Roads roedd cysgod Borough Head yn lle diogel i longau gysgodi rhag y storm.

Uwchlaw Goultrop Roads a Bae Musselwick mae’r clogwyni’n gyfoeth o goed gyda deri digoes. Mae’r clogwyni mawreddog hyn yn hynafol iawn, creigiau cyn-Gambraidd igneaidd tua 650 miliwn mlwydd oed.

Wedi’ch tywys chi drwy  gilfachau gydag enwau atgofus – Brandy Bay a Dutch Gin – mae’r llwybr yn cyrraedd ardal gul Foxes’ Holes, lle mae’r clogwyni’n newid.

Oddi yma ymlaen, Hen Dywodfaen Coch yw’r graig o dan eich traed; sylwch ar y gwahaniaeth yn y pridd coch cyfoethog yn y caeau gerllaw.

Ychydig tua’r tir ac mae’r llwybr yn ymylu â’r hyn sydd ar ôl o faes awyr Talbenni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe fyddai awyrennau yn hedfan o feysydd awyr yn Sir Benfro fel Talbenni i chwilio am longau tanfor Almaenig ac yn gwarchod gosgorddlu Môr Iwerydd a oedd yn cyflenwi Prydain.

Fe ddechreuodd y gwaith ar adeiladu Talbenni yn 1941 a’r uned RAF cyntaf i weithredu o’r orsaf hon oedd sgwadron yn llawn o fomwyr Vickers Wellington, wedi eu hedfan gan ddynion Tsiecoslofacia. Gadawyd yr orsaf yn 1946.

Sylwer: Mae’r llwybr a ddangosir ar y map OS yn arwain o Lwybr yr Arfordir i Goultrop Roads wedi syrthio i ffwrdd ac nid oes modd ei ddefnyddio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM836123

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau