Bedd Morris

Teithiau Byr

Bedd Morris

Pellter: 1.9 milltir (3.1 km)
Cyfeirnod map: SN034373
Cymeriad: Llwybrau gweunydd, llwybrau fferm, peth cerdded ar heolydd bach. 1 sticil.

Trowch i’r dde i’r heol, anwybyddwch y mynegbost cyntaf ar y chwith a throwch i’r chwith wrth y mynegbost nesaf gan ddilyn y llwybr amlwg am i lawr.  Peidiwch â dilyn wal y cae cyfagos ar y dde, ond cymerwch y llwybr glaswelltog amlwg rhwng y creigiau grug ac eithin, gan fynd tuag at gyfeiriad Ynys Dinas yn y pellter bob tro.

Mae yna ddwy fforc amlwg yn y llwybr – yn y ddau achos, cymerwch y llwybr ar yr ochr chwith. Trowch i’r chwith i drac arwynebol a’i ddilyn heibio cwpl o adeiladau, yna ewch heibio grid gwartheg, gan ddefnyddio’r bont slab a’r sticil haearn i’r chwith, a dilynwch y trac i fyny’r tyle.

Ewch heibio’r grid gwartheg, gan ddefnyddio’r giât cae i’r dde, a chyn y trydydd grid gwartheg, trowch i’r chwith i fyny’r llwybr, trwy’r giât ac yn syth ymlaen ar hyd llwybr caregog, sy’n troi’n  laswellt cyn hir.

Cadwch yn syth ymlaen fwy neu lai (peidiwch â throi tua’r wal garreg ar y dde) a dilynwch y llwybr glaswelltog llydan, heibio i frigiadau creigiog, yn ôl at yr heol.  Gan mai tir mynediad yw hwn, mae croeso i chi archwilio’r brigiadau creigiog. Ar yr heol, trowch i’r dde yn ôl i’r maes parcio.

View of Newport from Ffordd Bedd Morris

Bedd Morris/Parcmawr

Pellter: 1.8 milltir (2.9 km)
Cyfeirnod map: SN031369
Cymeriad: Llwybrau ar weundir agored. 1 sticil.

Trowch i’r dde arno i’r heol a throwch i’r chwith arno i lwybr ceffylau wrth y mynegbost. Dilynwch y llwybr llydan ac yn y fforc cadwch i’r dde (saeth las ar garreg), gan anwybyddu’r llwybrau mwy cul at frigiadau caregog (er, gan mai tir mynediad yw hwn, mae croeso i chi archwilio’r brigiadau caregog).

Pan fydd y wal garreg yn dechrau ar y chwith yn y pellter, chiliwch am garreg ar y chwith gyda saeth felen. Trowch i’r chwith yma tuag at wal sydd wedi dymchwel, gan ddilyn y marciwr llwybr ar y garreg o’ch blaen, ac wedi cyrraedd y wal trowch i’r chwith.

Dilynwch y wal nes cyrraedd giât ar y dde, ewch drwy’r giât a chroeswch y cae at y giât gyferbyn. Ewch trwy’r giât a dilynwch y llwybr glaswelltog yn syth ymlaen, gan gadw’r wal ar y chwith.

Dilynwch y trac glaswelltog llydan trwy weundir, gan anwybyddu traciau defaid mwy cul. Pan fydd y llwybr yn llai amlwg, anelwch am y sticil o’ch blaen.

Croeswch y sticil ac ewch yn syth ymlaen – mae’r llwybr yn mynd ychydig i’r chwith, gan gyrraedd wal yn y pendraw ar y chwith ar gornel y cae cyfagos.

Trowch i’r chwith wrth y mynegbost a dilynwch y llwybr trwy’r gatiau, yna ar hyd ymyl y cae, gan gadw’r wal ar y chwith, yn ôl i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN034373

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi