Bae Gorllewin Angle

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 547 llath (500m)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Coastal Cruiser (Yn hygyrch i gadair olwyn)
CYMERIAD: Llwybrau cae fynychaf o rediadau amrywiol.

Parciwch ym Mae Gorllewin Angle ac ewch yn syth heibio’r odynau calch. O’r ail gyffordd ar y llwybr, trowch i mewn i’r cae. Llwybr ymyl y cae, porfa a phridd, yn feddal pan fydd yn wlyb, yn codi’n raddol.

Mae’r graddiant mwyaf serth yn 1 mewn 15 am 30m mewn dau fan. Ochr y llethr yn gymedrol am 50m. Golygfeydd o’r gaer Fictoraidd ar Ynys Thorn ac ar draws yr Aber i Penrhyn y Santes Ann a’r goleudy.

Dim seddau. Toiledau yn Freshwater West (nid gerllaw).

Llwybr Mynediad Hawdd 500 metr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM853031

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau