Allt Pontfaen

Teithiau Byr

PELLTER: ALLT PONTFAEN 1 - 2.2 milltir (3.5 km)

ALLT PONTFAEN 2 - 3.0 milltir (4.8 km)

CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim

Allt Pontfaen 1

Pellter: 2.2 milltir (3.5 km)
Cyfeirnod map: SN037337
Cymeriad: Llethrau coediog, cwm afon, rhan fer o’r daith yn serth. Dim sticlau na giatiau mochyn, graddiannau serth.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio ac i fyny’r heol. Ar ôl cornel i’r chwith, trowch i’r chwith i lwybr cerdded (mae yn arwydd ar bostyn BT).

Dilynwch y trac llydan, gan osgoi’r llwybr cyntaf i lawr y bryn sydd ar y map. Ar ôl ychydig, mae’r llwybr yn mynd yn fwy cul.

Trowch i’r chwith wrth y mynegbost, i lawr llwybr serth, cul ac ar y gwaelod trowch i’r chwith.

Wrth y fforc yn y llwybr cadwch at y dde a dilynwch y llwybr yn ôl i’r maes parcio, gan ddilyn y marciau llwybr.

Pontfaen Woods, Gwaun Valley, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Allt Pontfaen 2

Pellter: 3.0 milltir (4.8 km)
Cyfeirnod map: SN037337
Cymeriad: Llethrau coediog, cwm afon, rhan fer o’r daith yn serth. Grisiau, dim sticlau na giatiau mochyn, graddiannau serth, arwynebau anwastad.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio ac i fyny’r heol. Ar ôl cornel i’r chwith, trowch i’r chwith arno i’r llwybr cerdded (mae yna arwydd ar bostyn BT).

Dilynwch y llwybr llydan, gan osgoi’r llwybr i lawr y tyle wrth y map. Ar ôl ychydig, mae’r llwybr yn mynd yn fwy cul.

Ewch yn syth ymlaen wrth y mynegbost, ble mae’r llwybr yn mynd yn fwy cul eto.

Wrth y postyn i farcio’r llwybr, trowch i’r chwith i lawr grisiau, yna i’r chwith eto wrth y mynegbost, croeswch y bont a dilynwch y llwybr trwy’r coed.

Wrth y cyffordd-T (T-junction) gyda’r llwybr ceffylau trowch i’r chwith a chadwch at y dde wrth gyffordd (junction) y traciau.

Ar y gwaelod, trowch i’r chwith, croeswch bont gerdded, trowch i’r chwith wrth y mynegbost a dilynwch y llwybr yn ôl i’r maes parcio, gan barhau yn syth ymlaen wrth y cyffyrdd gyda llwybrau eraill.

Wrth y fforc yn y llwybr, cadwch at y dde a dilynwch y llwybr yn ôl i’r maes parcio, gan ddilyn y marcwyr llwybr.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN037337

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi