Afon Cresswell

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.3 milltir (8.5 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Cei Cresswell 361, Galw a Theithio Bloomfield (01834 860293)
CYMERIAD: Graddfa gymedrol, croesi afon (cerrig camu), glan afon, caeau agored a da byw, llwybrau serth mewn ardaloedd o goetir, 2.8 milltir (4.5 km) o lonydd tawel, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Adar y dŵr • golygfeydd panoramig • Eglwys Sant Caradog • giât brig yn cael ei ddefnyddio i ddipio defaid • adar coetir
MWY O WYBODAETH: Gellir croesi’r afon yng Nghei Cresswell dim ond pan fydd y llanw’n isel.

Diolch i’r rhwydwaith canghennog o gilfachau o amgylch y Daugleddau nid oes unrhyw le yng nghanol Sir Benfro yn fwy na 10 milltir o ddŵr llanwol.

Mae’r Daugleddau a’i isafonydd yn foryd glasurol, sef cyfres o gymoedd afon a ffurfiwyd cyn yr Oes Iâ diwethaf ac a “foddwyd” wrth i lefelau’r môr godi.

Roedd llanw a thrai’r môr yn fendith i bobl y sir yn y dyddiau cyn y rheilffordd oherwydd fe allai’r cychod bach hwylio ymhell tua’r tir. Cludwyd nwyddau fel glo a cherrig wedi’u chwarelu o geiau bach fel yr un yng Nghresswell a chei Lawrenni gerllaw.

Roedd gan bentrefi fel Landshipping, Reynalton, Loveston a Yerbeston eu pyllau glo eu hunain oedd yn cadw’r ceiau’n brysur.

Mae’r llwybr rhwng Pont Cresswell a Lawrenni yn croesi tir fferm tonnog ac mae yna olygfeydd panoramig o Afon Cresswell. Pan fydd y llanw’n isel mae ei fflatiau llaid a’i morfa heli yn gynefin perffaith i’r adar gwyllt a’r rhydwyr.

Mae’r crëyr yno byth a hefyd, ac os ydych chi’n ffodus efallai y cewch chi gipolwg ar liwiau glas ac oren llachar glas y dorlan, aderyn chwim ei adenydd.

Yn Lawrenni, pentref prydferth sy’n agos i’r fan ble mae afonydd Caeriw a Cresswell yn ymuno â’r Daugleddau, chwiliwch am yr eglwys Eingl-Normanaidd, Sant Caradog.

Fe’i adeiladwyd yn y 12fed ganrif ac mae’n edrych allan dros ei chymuned fechan.

Fel Cei Cresswell, roedd llwyfan lanio Lawrenni yn arfer bod yn borthladd prysur. Adeiladwyd cychod yng Nghei Lawrenni ac allforiwyd glo a charreg galch lleol i sawl porthladd ar hyd Môr Hafren.

Dirywiodd y masnachu arfordirol ar ôl oes y rheilffordd Fictoraidd a bellach mae Lawrenni yn ganolfan hwylio hamdden.

O’r eglwys mae yna olygfeydd syfrdanol o Afon Caeriw a phentref Gorllewin Williamston.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN032071

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi