Ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol

Posted On : 21/03/2024

Mae ymgynghoriad newydd wedi cael ei lansio, ac mae’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ddweud eu dweud am y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’r ffordd orau o ofalu am y dirwedd eiconig hon dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn adolygu Cynllun Rheoli presennol y Parc Cenedlaethol (2020-2024), ac mae’n awyddus i gasglu barn trigolion ac ymwelwyr am rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol, er mwyn helpu i lunio’r Cynllun nesaf ar gyfer 2025-2029.

Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynllun partneriaeth ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol, sy’n cael ei ddatblygu a’i adolygu bob pum mlynedd. Mae’n ffordd o gydlynu ymdrechion llawer o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dibenion cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth y Parc Cenedlaethol.

Fel rhan o’r adolygiad presennol, rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n arbennig am y Parc Cenedlaethol i’r cyfranogwyr, a beth sydd angen ei wneud i ddiogelu ac adfer y rhinweddau arbennig hyn. Bydd yr holl adborth yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Rheoli nesaf y Parc Cenedlaethol. Bydd fersiwn ddrafft o’r cynllun ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Bydd y Cynllun Rheoli yn cael dylanwad sylweddol ar y Parc Cenedlaethol dros y blynyddoedd nesaf, gan effeithio ar amrywiaeth eang o faterion yng nghymunedau ein parc. Dyna pam rydyn ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle hwn i rannu eu barn a helpu i lunio dyfodol y Parc.”

Mae’r ymgynghoriad llawn ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/ymgynghoriadau-cyhoeddus, a gellir ei gwblhau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae croeso i chi hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar rinweddau arbennig y parc, ynghyd â’r hyn y mae angen ei wneud i’w diogelu a’u hadfer. Dylid eu hanfon dros e-bost i cynllunyparc@arfordirpenfro.org.uk, neu drwy’r post i:

Arolwg Cynllun y Parc,

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro,

Parc Llanion,

Doc Penfro,

Sir Benfro,

SA72 6DY.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 5pm ddydd Gwener 19 Ebrill.

 

 

A headland in the Treginnish area, looking out towards Ramsey Island