Y Gweinidog Addysg yn ymuno â Diwrnod Dathlu Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro

Cyhoeddwyd : 10/10/2023

Cafodd deg ysgol yn Sir Benfro eu cydnabod yn ddiweddar am eu hymrwymiad i ddysgu yn ac am yr amgylchedd naturiol mewn Diwrnod Dathlu arbennig ar gyfer Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ym Maenordy Scolton ger Hwlffordd ac roedd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, yno i gyflwyno tystysgrifau i staff ac i ddisgyblion o’r ysgolion llwyddiannus. Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

Roedd partneriaid PODS hefyd yn bresennol gan gynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Canolfan Darwin, Cyngor Sir Penfro, Tir Coed, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Cadwch Gymru’n Daclus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Roedd hi’n wych gweld enghreifftiau o ysgolion a phartneriaid yn Sir Benfro yn cydweithio i ddarparu profiadau awyr agored i blant.

“Mae chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn meithrin parch gydol oes at fyd natur ac at yr amgylchedd ac mae’n fuddiol i iechyd meddwl a chorfforol plant, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau datrys problemau.”

Representatives from ten Pembrokeshire schools were recognised for their commitment to learning in and about the natural environment at the 2023 Pembrokeshire Outdoor Schools Celebration Day at Scolton Manor.

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro:

“Roedd hi’n wych gallu cyflwyno Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i rai o’r ysgolion lleol sydd wedi gwneud addysg awyr agored yn rhan allweddol o’u cwricwlwm ysgol.

“Roedd hi’n arbennig o addas cael y ddau bennaeth a oedd wedi sefydlu PODS, Simon Thomas a Kevin Phelps, yn bresennol i ddathlu’r garreg filltir hon wrth i’r bartneriaeth geisio datblygu a sicrhau cyllid i barhau â’i gwaith yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Kevin Phelps, Pennaeth Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Tafarn Ysbyty a Thredeml:

“Roedd Simon a minnau wrth ein bodd ein bod wedi cael ein gwahodd i’r digwyddiad gwych hwn. Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld syniad a gawson ni flynyddoedd yn ôl yn datblygu i fod yn brosiect mor bwysig, gan ddod â phrofiadau dysgu o ansawdd yn yr awyr agored i gynifer o’n dysgwyr.”

Y deg ysgol a oedd yn y diwrnod dathlu oedd Ysgol Gynradd Tafarn Ysbyty, Ysgol Gynradd Tredeml, Ysgol Cas-mael, Ysgol Gynradd Hook, Ysgol Gymunedol Pennar, Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn, Ysgol Gynradd Cosheston, Ysgol y Glannau ac Ysgol Aberllydan.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan PODS (agor mewn ffenestr newydd).