Tymor godidog o ddrama yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn

Posted On : 03/07/2023

Mae Castell Caeriw yn falch iawn o gyhoeddi bod cyfres o gynyrchiadau theatr awyr agored yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd yr haf hwn.

Bydd y perfformiad cyntaf, yn atyniad hyfryd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cael ei gynnal ddydd Llun 31 Gorffennaf, wrth i Red Herring Theatre ddychwelyd i Gastell Caeriw gyda’r sioe Sherwood: The Adventures of Robin Hood. Yn llawn cyffro, chwerthin, ymladdfeydd cleddyfa, a chymeriadau anfarwol fel John Bach, y Brawd Tuck, a’r Forwyn Farian, mae’r stori deuluol gyffrous hon yn berffaith ar gyfer noson braf o haf, a bydd yn para tan ddydd Gwener 4 Awst.

Cyfle i glicio eich sodlau a dawnsio i lawr yr heol brics melyn wrth i gwmni Immersion Theatre gyflwyno addasiad newydd sbon o The Wizard of Oz ddydd Llun 7 Awst. Sioe hudol i’r teulu cyfan sy’n sicr o wneud i chi chwerthin o’r dechrau i’r diwedd.

Ymunwch â Dorothy ar ei thaith i’r Ddinas Emrallt wrth iddi hi a’i chyfeillion ganfod eu ffordd trwy wlad hudol i chwilio am y nerthol a’r rhyfeddol, Wizard of Oz. Gyda digonedd o ryngweithio cynulleidfaol, gwisgoedd gwych, sgript wreiddiol, a llawer o chwerthin, mae’r fersiwn newydd hon yn argoeli i fod yn wledd i’r teulu oll.

Y trydydd cynhyrchiad awyr agored a gynhelir yng Nghastell Caeriw yr haf hwn fydd Bad Dad, sef cynhyrchiad gan un o’r awduron plant mwyaf poblogaidd, David Walliams. Stori wresog am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perthynas rhwng tad a mab yw hon. Mae Bad Dad yn dilyn Frank a’i dad Gilbert wrth iddynt wneud eu gorau i ddianc rhag crafangau’r arch-droseddwr lleol a chlirio enw Gilbert.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae ein perfformiadau theatr awyr agored wedi bod yn boblogaidd dros ben dros y blynyddoedd diwethaf, felly byddem yn argymell eich bod yn archebu’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

“Bydd angen i’r rheini sy’n dod i’r digwyddiadau ddod â charthen neu gadair â chefn isel i eistedd arni, picnic a dillad addas i’w gwneud eu hunain yn gyfforddus i gael noson bleserus. Bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael ar y safle.”

Rhaid archebu lle ar gyfer pob perfformiad. Ewch i www.castellcaeriw.com i gael tocynnau, amseroedd a rhagor o wybodaeth am y perfformiadau. Sylwch nad oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal mewn tywydd gwlyb.

Mae’r Castell a’r Felin Heli yn agored bob dydd drwy gydol yr haf o 10am-4.30pm (mynediad olaf am 4pm), gydag Ystafell De Nest yn gweini cinio ysgafn, lluniaeth ac amrywiaeth o gacennau cartref blasus.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Cast members fro