Trysor cenedlaethol yn hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol a’r byd natur ‘gwerthfawr’ yn rhifyn 2023 Coast to Coast

Cyhoeddwyd : 22/03/2023

Bydd y gwaith o ddosbarthu prif bapur newydd i ymwelwyr Sir Benfro, Coast to Coast, wedi cychwyn, yn nodi 41 mlynedd o helpu miliynau o drigolion ac ymwelwyr i ddarganfod mwy am y Parc Cenedlaethol.

Mae’r papur arobryn, a fydd yn cael ei ddosbarthu i dros 550 o fannau ledled Sir Benfro, yn llawn gwybodaeth am sut mae mwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiogel ac yn gyfrifol, yn ogystal â chyngor ar sut gall bod yn egnïol yn yr awyr agored helpu i wella eich iechyd a’ch lles.

Cover of a magazine titled 'Coast to Coast' which features a coastal scene including a wooden gate across a footpath leading to a sandy beach with red sandstone cliffs in the distance.

Dywedodd Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Awdurdod y Parc, Marie Parkin:

“Yn y rhifyn eleni mae neges am bwysigrwydd gofalu am y Parc oddi wrth Syr David Attenborough, yn ogystal â digonedd o syniadau ar gyfer diwrnodau cost isel a sut i wneud y gorau o arfordir, traethau a safleoedd hanesyddol Sir Benfro.

“Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am raglenni’r haf yn nhri atyniad ymwelwyr yr Awdurdod, yn ogystal â rhaglen weithgareddau a digwyddiadau prysur sy’n cynnig cyfle unigryw i ddarganfod treftadaeth, bywyd gwyllt, cefn gwlad ac arfordir y Parc Cenedlaethol.”

Bydd fersiwn ddigidol lawn hefyd ar gael yn fuan ar ein tudalen Coast to Coast, yn rhoi’r cyfle i bobl gynllunio eu hymweliadau ar-lein cyn teithio i Sir Benfro.