Tocynnau ar gyfer yr 20fed Diwrnod Archaeoleg blynyddol ar werth nawr

Cyhoeddwyd : 31/10/2022

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi bod y Diwrnod Archaeoleg blynyddol yn cael ei gynnal unwaith eto mewn partneriaeth â PLANED.

Dyma’r 20fed tro i’r digwyddiad blynyddol gael ei gynnal, a bydd hynny’n digwydd yng Ngholeg Sir Benfro ddydd Sadwrn 5 Tachwedd rhwng 10am a 4pm.

Bydd pobl yn gallu dod draw yno, roedd y digwyddiad wedi cael ei gynnal ar-lein y ddwy flynedd flaenorol oherwydd COVID-19. A bydd dewis hefyd i archebu tocynnau i weld y digwyddiad yn fyw ar-lein.

Dywedodd Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol, a fydd yn cyflwyno’r digwyddiad ochr yn ochr â Chydlynydd Diwylliannol PLANED, Stuart Berry:

“Eleni, mae’r Diwrnod Archaeoleg yn argoeli i fod yn ddathliad addas arall o’r amrywiaeth eang o ddarganfyddiadau newydd a wnaed yn Sir Benfro yn ddiweddar.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig y dewis i bobl ddod i’r Diwrnod Archaeoleg yn bersonol unwaith eto, ond rydyn ni’n ymwybodol na fydd rhai pobl yn gallu dod draw neu y byddai’n well ganddyn nhw wylio’r digwyddiad ar-lein.”

Dyma rai siaradwyr a phynciau a drafodir yn y digwyddiad eleni:

  • Dr Julian Whitewright ar archaeoleg forol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Fran Murphy ar y gwaith cloddio diweddar yn nghaer bentir Porth-y-Rhaw, ger Solfach.
  • Luke Jenkins ar ddarganfyddiadau yn sgil gwaith cloddio’n gysylltiedig â datblygiad yr A40, gan gynnwys tirweddau defodol Neolithig ac Oes Efydd nad oedd yn hysbys o’r blaen.
  • Dr Rob Dennis ar ddarganfyddiadau’r gwaith cloddio diweddar yng Ngheudwll Wogan, o dan Gastell Penfro.
  • Tomos Jones ar brosiect gwirfoddol sy’n monitro henebion cofrestredig hygyrch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dilynwch y ddolen i archebu tocynnau i fynychu’n bersonol (£10 y person). Maent yn cynnwys te a choffi. Gofynnir i bawb sy’n mynychu i ddod â phecyn bwyd gyda nhw.

Dilynwch y ddolen i archebu tocynnau i  wylio ar-lein (£5 y person).

I gael gwybod rhagor am archaeoleg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac i danysgrifio i’n Rhestr Bostio Archaeoleg ewch i’n tudalen Archaeoleg.

I weld cynnwys o ddigwyddiadau blaenorol mewn Diwrnodau Archaeoleg, ewch i Sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg.