Sioe Geir Castell Caeriw yn dychwelyd yn ystod Gŵyl Banc mis Mai

Cyhoeddwyd : 26/04/2022

Bydd sioe geir boblogaidd yn dychwelyd i dir Castell Caeriw ar ddydd Llun Gŵyl y Banc ar ôl dwy flynedd o absenoldeb.

Wedi’i gynnwys yn rhad ac am ddim gyda mynediad arferol, bydd ymwelwyr â’r Castell yn cael gweld arddangosfa o geir a beiciau modur clasurol o bob rhan o dde Cymru – ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau hwyliog eraill ar gyfer y teulu cyfan.

Bydd caneuon roc clasurol yn cael eu perfformio’n fyw ar y diwrnod, a bydd yr arddangosfeydd yn amrywio o gerbydau milwrol ar dir y Castell, i arddangosfeydd o feiciau modur Glwb Beiciau Modur Clasurol Arberth.

Bydd Llwybr y Brenhinoedd a’r Breninesau ar thema’r Jiwbilî ar gyfer gwesteion iau hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol penwythnos Gŵyl y Banc am gost o £1 y plentyn (yn cynnwys gwobr), yn ogystal â’r pris mynediad arferol. Bydd angen ffôn clyfar i gymryd rhan.

Bydd Sioe Geir Castell Caeriw yn cael ei chynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Llun 2 Mai. Er bod rhagolygon y tywydd yn edrych yn addawol, sylwch efallai na fydd y Sioe yn cael ei chynnal mewn tywydd gwlyb. Dilynwch Gastell a Melin Heli Caeriw ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

I ddod o hyd i’r digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod Gŵyl y Banc eleni a drwy weddill y flwyddyn, ewch i’n calendr digwyddiadau.