Saith ymgynghoriad cynllunio Sir Benfro yn cau cyn bo hir

Cyhoeddwyd : 21/01/2021

Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi eich adborth ar amrywiaeth o ganllawiau cynllunio atodol newydd ac wedi’u diweddaru, sy’n cael eu cynnig ar gyfer Sir Benfro, yn prysur agosáu.

Mae canllawiau cynllunio atodol yn nodi gwybodaeth fanylach am y ffordd y bydd polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu rhoi ar waith mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol.

Dim ond i geisiadau a wneir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro y mae dogfennau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Datblygu Cabanau a Maes Carafanau, Safonau Parcio, Cynllun Lle – Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a Thai Fforddiadwy, Ynni Adnewyddadwy, a Dylunio a Datblygu Cynaliadwy yn berthnasol.

Mae dogfennau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Archaeoleg a Bioamrywiaeth yn berthnasol i Sir Benfro gyfan.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer pob dogfen yn para tan 4.30pm ar 12 Chwefror 2021.

Dylid anfon sylwadau naill ai’n ysgrifenedig at: Tîm Cyfeiriad y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY, neu drwy anfon e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dogfennau, cysylltwch â Thîm Cyfeiriad y Parc drwy anfon e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800 a gofyn am rywun sy’n delio â’r Cynllun Datblygu Lleol.

Bydd yr holl sylwadau’n cael eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi. Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chabinet Cyngor Sir Penfro lle bo’r Canllawiau a gynigir yn cael eu paratoi ar y cyd gan y ddau awdurdod. Bydd pawb sy’n rhoi sylwadau yn cael gwybod beth fydd canlyniad y cyfarfodydd hyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho ffurflen gais i lawr, ewch i’r dudalen Canllawiau Cynllunio Atodol (CDL2).