Rhybuddio cerddwyr am gau sarnau Caeriw

Posted On : 18/02/2021

Bydd llwybr cerdded poblogaidd yn ne sir Benfro ar gau ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol o ddydd Llun 22 Chwefror am nifer o wythnosau.

Bydd llwybr cerdded poblogaidd yn ne sir Benfro ar gau ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol o ddydd Llun 22 Chwefror am nifer o wythnosau.

Mae’r sarn yng Nghastell Caeriw yn rhan o daith gerdded sy’n filltir o hyd o amgylch Llyn y Felin, a bydd ar gau yn gyfan gwbl am oddeutu tair wythnos i ddechrau, gyda rhagor o waith yn bosib wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Dywedodd Swyddog Prosiectau Adeiladau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Andrew Muskett: “Bydd llawer o’r gwaith hanfodol yn canolbwyntio ar ardal y llifddorau, a bydd yn cynnwys gwaith i helpu i atal dŵr rhag gollwng drwy’r strwythur ac atgyweirio giatiau’r llifddorau.

“Er y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gynted â phosib, mae’n anodd rhoi’r union ddyddiadau ar hyn o bryd oherwydd amodau’r llanw a’r ffaith bod y gwaith o dan y ddaear.”

Mae’r sarn restredig Gradd II* yng Nghastell a Melin Heli Caeriw yn rhan o’r unig Felin Heli a Sarn sydd ar ôl yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl i 1541.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli Castell, Melin a sarn Caeriw ar brydles hirdymor gan Ystâd Caeriw.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gwaith.

Carew Castle and Tidal Mill