Pyped enfawr i arwain Gorymdaith y Ddraig flynyddol Oriel y Parc

Cyhoeddwyd : 25/02/2022

Bydd pyped trawiadol o’r ddraig goch yn arwain Gorymdaith y Ddraig yn Nhyddewi yn 2022 wrth i ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion orymdeithio drwy’r strydoedd fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn ninas leiaf Prydain

Bydd yr orymdaith, sy’n cael ei threfnu gan Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 5 Mawrth am 11am. Bydd eleni’n gyfle i bawb ddod ynghyd unwaith eto ar ôl gorfod cynnal digwyddiad 2021 ar-lein oherwydd covid-19.

Meddai Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “Rydym wrth ein bodd y bydd Theatr Byd Bychan yn dod â phyped enfawr o’r ddraig goch i’r orymdaith eleni a bydd Samba Doc, y band samba o Sir Benfro, yn helpu i greu awyrgylch carnifal.

“Rydym yn annog pawb i gymryd rhan mewn rhyw ffordd. Mae croeso i chi ymuno â’r orymdaith ei hun neu ymgynnull ar y strydoedd i ddangos eich gwerthfawrogiad o’r ymdrech fawr i greu dreigiau anhygoel o bob lliw a llun.”

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei reoli ganddo, gan weithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru.

Ewch i wefan Oriel y Parc i gael rhagor o wybodaeth.