Prosiectau paneli solar, plannu a chompostio yn cael cymorth drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod y Parc
Roedd prosiectau yn cynnwys compostio â mwydod, plannu cymunedol a phaneli solar ymysg llu o brosiectau a gafodd gymorth yn ddiweddar gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dyfarnwyd dros £140,000 i wyth o brosiectau yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Ionawr, a’r dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd ar 23 Mawrth.
Bydd cais Clynfyw Care Farm ar gyfer prosiect compostio â mwydod, yn creu compost cynaliadwy cyfoethog ac o ansawdd y gellir ei ddefnyddio i wella cyflyrau pridd mewn ffordd organig. Bydd hyn yn helpu cynhyrchwyr llysiau lleol ac yn dal ac yn storio carbon ar yr un pryd.
Bydd Grŵp Amgylchedd Ardal Trefdraeth yn cael cyllid i arwain prosiect plannu cymunedol i hybu datgarboneiddio drwy fioamrywiaeth.
Fe wnaeth Cwm Arian Renewable Energy Ltd gael cymorth ariannol i ymchwilio i raglen Effeithlonrwydd Ynni ar draws Sir Benfro, gyda’r nod o gael pobl i ddefnyddio llai o ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy annog mwy o bobl i wneud dewisiadau bywyd carbon isel a normaleiddio’r dewisiadau hynny.
Cytunwyd i gyllido panelau ffotofoltäig (PV) ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd gan Gymdeithas Chwaraeon a Hamdden Herbrandston, Cymdeithas Gymunedol South Ridgeway, Neuadd Gymunedol Bwlchygroes, Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Ynys Dewi, a Chlwb Rygbi Crymych, sydd oll yn cael cyllid i helpu i harneisio ynni solar.
Meddai’r cyfarwyddwyr o Clynfyw Care Farm:
“Diolch i’r cyllid gan SDF, bydd y prosiect compostio â mwydod hwn yn offer defnyddiol i ymgysylltu â phobl, gan leihau CO2 ac addysgu proses gynaliadwy syml y mae iddi gamau pwysig mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Ar ôl sefydlu’r prosiect, bydd compost mwydod ar gael i’w brynu mewn siopau lleol, gan roi dewis amgen, ystyriol o’r amgylchedd i dyfwyr lleol.”
Anogir ceisiadau am gyllid gan grwpiau dielw, gan gynnwys neuaddau pentref, cynghorau cymunedol a grwpiau amgylcheddol yn y sir sydd â phrosiect sy’n cyfrannu at ostwng carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
I ddysgu rhagor am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac i ymgeisio ar-lein neu i lawrlwytho’r ffurflen gais ewch i’n tudalen Gronfa Datblygu Cynaliadwy.