Prosiectau Arfordir Penfro yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Amddiffynwyr y Parc Cenedlaethol

Cyhoeddwyd : 28/09/2023

Cafodd dau brosiect sy’n helpu pobl i wirfoddoli a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn yr awyr agored yn Sir Benfro eu cydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023, sy’n cydnabod yr unigolion a’r grwpiau sy’n mynd y filltir ychwanegol i Barciau Cenedlaethol.

Cafodd prosiect Gwreiddiau i Adferiad, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro, ei enwi’n ail yng Nghategori Safbwyntiau Newydd y gwobrau, sy’n dathlu’r bobl, y prosiectau neu’r mentrau sy’n hyrwyddo ac yn ysbrydoli amrywiaeth a chynhwysiant mewn Parciau Cenedlaethol.

Mae Gwreiddiau i Adferiad yn brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl am bwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro. Mae pobl o bob gallu yn dysgu sgiliau newydd ac yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau fel teithiau bywyd gwyllt, celf a chrefft, gwaith cadwraeth, sesiynau llesiant a gweithgareddau garddio.

Roedd Cenhedlaeth Nesaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n cynnwys Pwyllgor Ieuenctid a Pharcmyn Ifanc yr Awdurdod, hefyd ar y rhestr fer yn y categori Safbwyntiau Newydd.

Dywedodd Maisie Sherratt, Swyddog Gwreiddiau i Adferiad/Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rwy’n falch iawn o’r gwaith caled a’r ymrwymiad y mae pawb sy’n ymwneud â’r prosiectau hyn yn eu dangos. Diolch i bawb am eich cefnogaeth gyson a’ch geiriau o anogaeth.”

People trimming back hedgerow

Ychwanegodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:

“Roeddwn i’n falch iawn bod dau brosiect o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer, gan barhau â’r traddodiad cryf o enillwyr blaenorol a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r ddau brosiect hyn yn tynnu sylw at rai o’r gwahanol ffyrdd y mae Awdurdod y Parc yn gweithio i ymgysylltu â phobl o bob oed, cefndir a gallu i archwilio sut y gall y Parc Cenedlaethol fod o fudd iddyn nhw a sut y gallan nhw helpu i wneud y Parc yn lle gwell i bobl eraill.”

Gan nad oedd y cyfranogwyr yn y ddau brosiect yn gallu dod i’r seremoni wobrwyo yn y Senedd yn Llundain, cynhaliwyd noson arbennig yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi i ddathlu eu llwyddiannau, ochr yn ochr â’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi’u cefnogi.

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o grŵp Eco Dewi, a ddaeth yn ail yn 2022.

Mae Gwobrau Amddiffynwyr y Parciau Cenedlaethol yn cael eu trefnu gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol bob blwyddyn i gydnabod unigolion a grwpiau sy’n mynd y filltir ychwanegol i Barciau Cenedlaethol. Ceir prosiectau ar raddfa fawr sy’n helpu natur i adfer, yn ogystal â grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol at Barciau Cenedlaethol, a gwirfoddolwyr sy’n helpu pobl i ymweld yn gyfrifol.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Amddiffynwyr y Parc Cenedlaethol, ewch i wefan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol (agor mewn ffenestr newydd).

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gwreiddiau i Adferiad, ewch i dudalen y prosiect neu dilynwch y dudalen Facebook (agor mewn ffenestr newydd).

I gael rhagor o wybodaeth am Genhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol, ewch i dudalen y Genhedlaeth Nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â phrosiect Gwreiddiau i Adferiad, ebostiwch ein Cydlynydd Gwirfoddoli.