Prosiect plannu coed coffa yn anelu i roi mwy o gyfleoedd i addysg awyr agored a rhoi hwb i fioamrywiaeth

Cyhoeddwyd : 16/05/2023

Lansiwyd cynllun newydd ar gyfer plannu coed yn ddiweddar o’r enw Coetir Enfys Ros yn Nhraeth Poppit, sy’n ceisio creu coetir ar draws ysgolion yn Sir Benfro.

Cafodd y cynllun ei sefydlu er cof am Ros Jervis, sef Cyn-gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda’r nod o annog disgyblion i fwynhau’r awyr agored, gwella eu hiechyd a’u llesiant, yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth.

Bydd Coetir Enfys Ros yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar ran amrywiaeth o bartneriaid lleol.

Group of people standing on a grassy verge alongside newly planted trees. Location pictured is Poppit Sands, Pembrokeshire

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro:

“Byddwn ni’n gwahodd ysgolion i gysylltu â ni ar ddiwedd tymor yr haf os ydynt yn dymuno cymryd rhan, er mwyn i ni allu paratoi i blannu ar ddechrau’r tymor plannu, sef o fis Hydref ymlaen.

“Bydd ysgolion yn cael coed – yn ogystal â chymorth a chyngor ar y lleoliadau mwyaf addas i’w plannu – er mwyn sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lle iawn. Byddwn hefyd yn paratoi adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, a bydd yr adnoddau hyn yn ymwneud â Choetir Enfys Ros.

Daeth teulu a ffrindiau Ros at ei gilydd yn ystod y lansiad yn Nhraeth Poppit ddiwedd mis Ebrill 2023 – ynghyd â chynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, ewch i wefan PODS (agor mewn ffenest newydd).