Pasg ‘hWYliog’ wedi’i gynllunio yn y Parc!

Posted On : 13/03/2024

Bydd gwyliau'r Pasg yn llawn cyffro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda hwyl i'r teulu i bawb yn nhri atyniad ymwelwyr Awdurdod y Parc – Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, yn Nhyddewi.

Bydd Castell Caeriw yn cynnal Her Cywion Pasg rhwng dydd Sadwrn 23 Mawrth a dydd Sul 14 Ebrill, gyda gwobr flasus ar gael i’r rhai sy’n dod o hyd i’r cywion Pasg sydd wedi’u cuddio o amgylch y Castell. Y tâl yw £2 y plentyn ac mae tâl mynediad arferol yn berthnasol.

Bydd sesiynau hynod boblogaidd Caeriw, Hanesion Hyll, hefyd yn dychwelyd gyda’u straeon gwaedlyd, chwedlau ofnadwy ac adroddiadau arswydus am fywyd y Castell. Wedi’u cynnwys am ddim gyda mynediad, mae’r sgyrsiau hwyliog, rhyngweithiol hyn am ddim ar gyfer y genhedlaeth iau am 11am yn ystod yr wythnos rhwng 25 Mawrth a 5 Ebrill. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

I nodi bod y Pasg wedi cyrraedd, cynhelir lansiad y Fagnel Fawr yng Nghaeriw am 2.30pm ddydd Mawrth 2 Ebrill. Gwyliwch wrth i’r teclyn gwarchae dyfeisgar a phwerus hwn gael ei lansio, a dysgwch sut y cafodd cerrig enfawr eu taflu (yn ogystal â phethau annymunol eraill) gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf.

I’r rhai sy’n chwilio am ddigwyddiad Pasg llawn hud, ymunwch ag Academi Hud yr Ysgol Dewiniaid a Gwrachod am 1pm ar 3, 4 a 5 Ebrill. Bydd y sioe ryngweithiol hon, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am antur o 6 oed i oedolion, i’w gweld yn lleoliad hudolus y Neuadd Leiaf. Sylwch nad oes mynediad i gadeiriau olwyn yn y lleoliad yma. Argymhellir yn gryf eich bod archebu lle. Y tâl yw £6 y pen, yn ogystal â ffioedd mynediad arferol i’r Castell i bob oedolyn a phlentyn y mae’n rhaid eu talu ar y diwrnod.

Am fanylion llawn holl ddigwyddiadau Caeriw, gan gynnwys amseroedd agor a phrisiau mynediad, ewch i www.castellcaeriw.com.

A giant trebuchet with Carew Castle in the background.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys bydd cyfle i gerdded ar hyd Llwybr y Gwanwyn o ddydd Sadwrn 23 Mawrth tan ddydd Sul 14 Ebrill. Y tâl yw £2 y plentyn. Chwiliwch drwy’r coed am arwyddion y gwanwyn, tynnwch lun neu ysgrifennwch nhw i lawr i ennill gwobr. Mae tâl mynediad arferol yn berthnasol.

I’r rhai sy’n chwilio am Sul y Pasg i’w gofio, ewch i Gastell Henllys ar 31 Mawrth a chofrestrwch ar gyfer Ysgol y Rhyfelwyr – mae’r sesiynau yn dechrau am 11am. Codwch eich arfau a dysgwch sut roedd pobl yn ymladd yn y gorffennol yn Ysgol y Rhyfelwyr yn y Pentref. Dysgwch sut i drin cleddyf a tharian a defnyddiwch eich sgiliau newydd yn erbyn eich gwrthwynebydd. Yn addas ar gyfer plant 7 oed a hŷn. Mae tâl ychwanegol yn berthnasol ynghyd â thâl mynediad arferol.

Dysgwch fwy am y gorffennol i ddarganfod cyfrinachau, gwybodaeth a doethineb Derwyddon yr Oes Haearn gyda sesiynau Hud y Derwyddon ddydd Mercher 27 Mawrth a 3 Ebrill am 11am a 2.30pm. Ymunwch â sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara a phaentio wynebau. Yn addas ar gyfer plant 6 oed a hŷn, y tâl yw £7 y plentyn ynghyd â thâl mynediad arferol. Mae’n hanfodol archebu lle.

Bydd sesiynau Profi’r Oes Haearn yn cael eu cynnal yn ddyddiol o ddydd Llun 25 Mawrth, gyda’r cyfle i ddysgu am fywyd yn y cyfnod cynhanesyddol yng nghwmni aelodau cyfeillgar o’r Llwyth, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol a rhoi cynnig ar ddefnyddio catapwlt – os bydd y tywydd yn caniatáu. Mae taith dywys o’r Pentref hefyd wedi’i chynnwys yn y tâl mynediad am 11.30am a 2.30pm.

Bydd fersiwn dawelach o’r sesiwn hon, heb unrhyw weithgareddau nac arddangosiadau uchel neu swnllyd, yn cael ei chynnal ar foreau Sul rhwng 10am a  chanol dydd.

Ymysg rhai o’r uchafbwyntiau eraill yn ystod gwyliau’r ysgol ym Mhentref Oes yr Haearn bydd Hwyl yn y Gaer ar ddydd Mawrth a dydd Iau o 11am a thaith dywys yn Gymraeg drwy’r safle ddydd Sadwrn 6 Ebrill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.castellhenllys.com.

An Iron Age Villager from Castell Henllys in front of an open fire.

Bydd gwledd hefyd yn disgwyl ymwelwyr ag Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi’r Pasg hwn, gyda gweithgareddau crefft, arddangosfeydd celf a Marchnad Grefftau’r Gwanwyn wedi’u trefnu ar gyfer y gwyliau.

Bydd marchnad grefftau gyntaf 2024 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 30 Mawrth rhwng 10am a 3pm. Bydd yn cynnwys stondinwyr lleol wedi’u dewis yn benodol sy’n gwerthu crefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw, mae’n gyfle perffaith i ddod o hyd i anrhegion anarferol neu eitem werthfawr i’w chadw.

Os ydych chi’n awyddus i ymgymryd â her, cofrestrwch ar gyfer Llwybr Synhwyraidd Geiriau Diflanedig a gynhelir yn Oriel y Parc rhwng dydd Sadwrn 23 Mawrth a dydd Sul 7 Ebrill. Mae’r llwybr yn costio £4 y plentyn ac mae gwobr fach yn cael ei chynnwys.

Ar gyfer egin arddwyr y genhedlaeth nesaf, mae’n werth dod i Glwb Mercher Oriel y Parc! ar ddydd Mercher 27 Mawrth, lle gall ymwelwyr ymuno â gweithdy Tyfu Llysiau ac yn yr hwyl wrth arddio. Bydd cyfle i addurno pot planhigion a phlannu hedyn i fynd adref i’w weld yn tyfu. Cynhelir y gweithdy rhwng 11am a 3pm – trefn galw heibio, a’r tâl yw £4 y plentyn.

Bydd mwy o hwyl yn y Clwb Dydd Mercher! ar 3 Ebrill pan fydd cyfle i greu collage o blanhigion ac anifeiliaid wedi’i ysbrydoli gan lyfr ac arddangosfa Geiriau Diflanedig. Cynhelir y gweithdy rhwng 11am a 3pm – trefn galw heibio, a’r tâl yw £4 y plentyn.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn celf lleol, mae’r tŵr murmuriad – golygfeydd o ddrudwen ar ymweliad gan Elly Morgan yn cael ei ddehongli mewn clai, paentiadau a sain ac yn cael ei arddangos yn y Tŵr tan ddydd Sul 14 Ebrill. Mae cerameg a phaentiadau gan Jane Boswell yn darlunio Moroedd Glaswyrdd a Glannau Creigiog, i’w gweld yn Ffenestri’r Ystafell Ddarganfod tan ddydd Mawrth 16 Ebrill. Mae cyfle hefyd i weld Argraffiadau o Dirwedd Sir Benfro drwy ffotograffiaeth Barry Chantler, yn Ystafell Dewi Sant tan ddydd Sul 14 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Outdoor stalls at an Oriel y Parc craft market.