Parc Cenedlaethol yn dweud wrth dwristiaid gadw draw

Cyhoeddwyd : 09/04/2020

"Rydyn ni ar gau" yw’r cyfarwyddyd llym sy’n cael ei anfon i bob cwr o’r wlad heddiw (dydd Iau) gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r datganiad pwerus yn cael ei gyhoeddi cyn y penwythnos oherwydd mae pryderon y gallai fod yn brysur iawn os bydd pobl yn anwybyddu cyngor y Llywodraeth ac yn mynd am yr arfordir ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc.

Path closure sign at Ceibwr

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Yr unig ffordd o ddiogelu ein cymunedau gwledig, amddiffyn y GIG ac achub bywydau yw osgoi teithio ac aros gartref.

“Fel gwlad, rydyn ni’n dibynnu ar economi ymwelwyr ac yn croesawu dros bedair miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ond yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydyn ni’n dweud wrth bobl aros gartref er mwyn cadw’n ddiogel, a dod i ymweld â ni rywdro eto.

“Mae cyrchfannau twristiaid ledled y wlad, gan gynnwys Sir Benfro, yn barod i wynebu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos. Mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd yn wynebu pwysau cynyddol ac na fydd mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.

“Mae’r rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Penfro a phrif atyniadau Sir Benfro, gan gynnwys canolfannau ymwelwyr yr Awdurdod yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc, wedi cau yn unol â chyngor y Llywodraeth.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod angen mynediad at fannau agored ac awyr iach ar bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond mae’n amhosib cadw pellter cymdeithasol gyda nifer yr ymwelwyr yn cynyddu.

“Fel Awdurdod, byddwn yn gwneud popeth posib yn ystod yr wythnosau nesaf i ddarparu mynediad rhithiol at y Parc Cenedlaethol drwy ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, podlediadau a fideos er mwyn galluogi pobl i gysylltu â natur a phrofi ein Parc Cenedlaethol ar-lein. Ewch i www.arfordirpenfro.cymru i gael rhagor o wybodaeth”.