Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Datanagiad o Cyfrifion 2021/22

Cyhoeddwyd : 26/05/2022

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Cyllid Cyfrifol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn llofnodi’r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio’i fod yn cyfleu darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022.

Nid yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio’r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.  O ganlyniad i’r achos o COVID-19, nid yw’r datganiad cyfrifon wedi cael ei baratoi eto.  Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi, a bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad cyfrifon erbyn 20 Mehefin 2022.