Mynediad i draeth Monkstone i aros ar gau oherwydd pryderon diogelwch

Posted On : 16/02/2024

Mae effaith y glawiad uwch yn ystod y misoedd diwethaf yn dal i achosi problemau ar hyd arfordir Sir Benfro, gyda’r grisiau mynediad i Draeth Monkstone i aros ar gau oherwydd pryderon diogelwch.

Yn dilyn glaw trwm fis Tachwedd diwethaf, cafodd y grisiau ar y llwybr troed cyhoeddus sy’n arwain at draeth Monkstone eu difrodi a’u hansefydlogi. Roedd cyfres o graciau hefyd wedi ymddangos ar wyneb y llwybr troed, gan ddangos bod y llethr yn symud.

Penderfynwyd bod y llwybr troed yn anniogel i gerddwyr. Cafodd ei gau dros dro gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro er mwyn cyfyngu ar fynediad i’r cyhoedd, a rhoddwyd arwyddion a rhwystrau ar waith.

Gan siarad am gau’r llwybr, dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod y Parc:

“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ceisio cyngor arbenigol i asesu’r difrod ac wedi cael gwybod y dylai’r llwybr cyhoeddus aros ar gau oherwydd ansefydlogrwydd y llethr.

“Diogelwch y cyhoedd yw’r flaenoriaeth o hyd a disgwylir y bydd angen ymestyn y gorchymyn cau presennol pan ddaw i ben ym mis Mai wrth i’r opsiynau tymor hwy ar gyfer y llwybr cyhoeddus gael eu hasesu.”

Tra bo’r llwybr yn dal ar gau, mae’n golygu nad oes ffordd ddiogel o adael y traeth o Monkstone a bydd angen i unrhyw un sy’n cerdded ar y blaendraeth o Saundersfoot neu o Ddinbych-y-pysgod pan fydd llanw isel fod yn ymwybodol o hyn wrth gynllunio eu taith gerdded. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ar bwyntiau allweddol i roi gwybod i’r cyhoedd, a bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod.

A path closure sign at the entrance to Monkstone Beach