Mwynhewch Sulgwyn gwyllt ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 24/05/2023

Cymerwch ran mewn anrhefn ganoloesol, profwch wefr Ymosodiad Rhufeinig, gwnewch eich coron natur eich hun ac archwiliwch ambell lwybr gwych yn ystod wythnos hanner tymor gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Wrth i’r genedl baratoi am dymor prysur arall yr haf hwn, mae Awdurdod y Parc wedi trefnu rhaglen lawn dop o ddigwyddiadau, gyda rhywbeth at ddant pawb.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, bydd saethyddion a marchogion Bowlore yn dychwelyd rhwng dydd Sul 28 Mai a dydd Mawrth 30 Mai, gan gynnwys cleddyfa marwol, saethyddiaeth ac arddangosfeydd arfwisgoedd, yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn Ysgol Gleddyfau, Rhoi Tro ar Saethyddiaeth a thrin arfau eraill go iawn. Dylai’r rheini sydd â diddordeb mewn arfau Canoloesol mwy o faint roi dydd Iau 1 Mehefin yn eu dyddiaduron, pan fydd Taniwch! Lansio’r Fagnel Anferthol yn cael ei gynnal am 2.30pm.

Yn newydd i Gaeriw eleni fydd gweithgaredd i blant a theuluoedd, yn seiliedig ar fyd bendigedig perlysiau. Ddydd Sadwrn 3 Mehefin am 11am, bydd Perlysiau Perffaith yn cynnwys taith fer synhwyraidd o welyau perlysiau’r Castell i gasglu’r cynhwysion sydd eu hangen i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch naturiol.

Bydd ochr llai hudolus y Castell yn cael ei datgelu yn y sesiynau poblogaidd Hanesion Atgas sy’n dychwelyd i Gaeriw rhwng dydd Mercher 31 Mai a dydd Gwener 2 Mehefin am 11am. Am ddim yn y pris mynediad arferol, bydd y sgyrsiau hwyliog, rhyngweithiol hyn ar gyfer y genhedlaeth iau yn datgelu’r holl straeon gwaedlyd, yr hanesion atgas a’r adroddiadau ffiaidd sydd byth yn cael eu dysgu mewn gwersi hanes. Mae’n rhaid i rywun fod yno gyda’r plant.

Am ffi fechan, mae ymwelwyr iau yn cael eu gwahodd hefyd i gymryd rhan yn Llwybr Trysor y Brenhinoedd a Breninesau o amgylch tiroedd Castell Caeriw, a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol gwyliau’r ysgol ac yn cynnwys gwobr frenhinol.

Mae antur hynafol ar y gweill i bawb sy’n ymweld â Phentref Oes Haearn Castell Henllys yn ystod hanner tymor, lle bydd aelodau cyfeillgar o’r llwyth yn rhannu eu straeon am fywyd yr Oes Haearn, yn ogystal ag arddangos crefftau a sgiliau hynafol. Am ffi ychwanegol, bydd amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol, gan gynnwys gwneud bara, yn cael eu cynnal rhwng dydd Llun a dydd Iau yn ystod hanner tymor.

Yn syth ar ôl eu concwest ar Ynys Môn, bydd milwyr Rhufeinig o’r Legio VIII Augusta MGV yn cyrraedd Castell Henllys ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Mehefin i gwblhau eu concwest o Gymru. Mae arddangosfeydd arena anhygoel wedi’u trefnu am 12.30pm a 2.30pm, gyda chrefftau a gweithgareddau yn rhan o’r pris mynediad. Tocynnau yn £12 i oedolyn, £11 ar gyfer consesiynau, £10 i blant a £35 am docyn teulu (2+2).

Er y gellir darparu pob sesiwn yn ddwyieithog, mae’r Daith Tywys yng Nghastell Henllys ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin wedi’i hanelu at ymwelwyr a hoffai eu profiad yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn addas i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Mae mynediad arferol yn berthnasol.

Bydd cyfle i brofi agweddau tawelach bywyd yr Oes Haearn, heb unrhyw weithgareddau swnllyd, ar ddydd Suliau rhwng 10am a 12 hanner dydd.

Yr hanner tymor hwn fydd y cyfle olaf i weld arddangosfa Amgueddfa Cymru Ar Eich Stepen Drws yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, gan ganolbwyntio ar ddarganfyddiadau archeolegol a naturiol lleol o bob maint, o’r ysbrydwlithen i ddarnau o arian aur.

Mae arddangosfeydd eraill sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc yn ystod wythnos hanner tymor yn cynnwys Ysbrydoli gan Natur gan Grefftau Tŷ Hir, sy’n cynnwys sgarffiau sidan lliwgar, bagiau wedi’u ffeltio â llaw a darnau pren addurnol wedi’u troi, a Machlud a Thywod gan Kate Kelly, casgliad o waith olew, pastel ac acrylig, wedi’u hysbrydoli gan foroedd stormus, golau dramatig a chysgodion arfordir Penfro. Bydd y rheini sy’n ymweld ddydd Sadwrn 27 Mai yn cael cyfle i gwrdd â Kate Kelly ac i fynd am dro o gwmpas ei harddangosfa am 11am.

Bydd gwaith Edward Bowie yn cael ei arddangos yn y Tŵr yn ystod y cyfnod hwn, gan drosglwyddo symudiad, naws, lliw ac awyrgylch yr amgylchedd naturiol i ffurf weledol.

Ceir mynediad am ddim i’r holl arddangosfeydd, a bydd digonedd o weithgareddau crefft i gadw’r ymwelwyr iau yn brysur hefyd, gan gynnwys Llwybr Trysor Brenhinoedd a Breninesau am ffi fechan, a chyfle i wneud coron frenhinol o ddeunyddiau naturiol yng Ngweithdy Celf Clwb Dydd Mercher rhwng 11am a 3pm ar ddydd Mercher 31 Mai. Galwch heibio ar gyfer y gweithdy am gost o £3 y plentyn.

Ym Mlwyddyn y Llwybrau, mae rhaglen o Weithgareddau a Digwyddiadau Awdurdod y Parc yn cynnig digonedd o gyfleoedd i archwilio yn ystod wythnos hanner tymor ac i ddysgu mwy am dirlun anhygoel Sir Benfro.

Bydd taith gerdded gron ar safle Llwybr Pwll Cornel, a agorwyd yn ddiweddar, ar hyd yr Afon Nyfer, yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 30 Mai, gan ganolbwyntio ar sut mae cadwraeth natur, materion mynediad a newid hinsawdd yn effeithio ar y rhan hon o’n Parc Cenedlaethol.

Efallai y bydd diddordeb gan y rheini sy’n dysgu Cymraeg, neu’n rhugl, i ymuno â thaith gerdded Gymraeg yng nghalon y Preseli ddydd Iau 1 Mehefin. Yn ogystal â’r golygfeydd godidog o Garn Meini, bydd llwybr Taith Gerdded Craig Talfynydd yn cynnwys meingylchoedd enigmatig a chylch cerrig Bedd Arthur a safle damwain awyren y Liberator wrth ymyl Carn Bica.

Bydd taith gerdded hamddenol o amgylch Tyddewi yn cael ei chynnal ddydd Gwener 2 Mehefin, gan edrych ar yr amrywiaeth o adeiladau, hynod a modern, sy’n rhan o ddinas leiaf Prydain. Wrth i’r tywyllwch ddisgyn, bydd cyfle hefyd i ymuno â Thaith Gerdded Ystlumod yng Nghaeriw, i ddarganfod mwy am greaduriaid swil y nos ac i wrando ar eu cleber ar ein synwyryddion eco-leoli.

Mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer pob taith gerdded. Am amseroedd, prisiau tocynnau, archebion a’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau’r haf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Landscape image by Kate Kelly