Mwynhewch hanner tymor yn llawn hanes, helfeydd trysor a hwyl ar thema jiwbilî ar Arfordir Penfro

Cyhoeddwyd : 25/05/2022

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi trefnu amserlen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i'ch helpu chi a'ch teulu i fwynhau'r gwyliau hanner tymor hwn.

P’un a ydych chi’n bwriadu ymuno mewn digwyddiadau ar thema’r Jiwbilî neu brofi rhywbeth yn y Parc Cenedlaethol, mae rhywbeth i bob aelod o’r teulu ei ddarganfod, o Gampau Canoloesol i Oresgyniad Rhufeinig ac o arddangosfeydd ysbrydoledig i Saffari Chwilod.

Yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau yn nhri atyniad yr Awdurdod yng Nghastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel y Parc a’r Ganolfan Ymwelwyr, mae cyfleoedd hefyd i ddarganfod bywyd gwyllt arbennig y Parc Cenedlaethol.

Meddai Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Paul Harries: “P’un a ydych chi am ymuno ag un o’r digwyddiadau arbennig sydd wedi’u trefnu ar gyfer yr hanner tymor hwn neu’n chwilio am daith gerdded wych gyda golygfeydd hardd, bydd gan Arfordir Sir Benfro rywbeth i’ch helpu i fwynhau eich hun wrth grwydro’r ardal.

“Mae’r Parc Cenedlaethol a’i Mawrhydi y Frenhines ill dau’n dathlu 70 mlynedd eleni ac mae digonedd o ffyrdd y gallwch ddathlu’r ddau ben-blwydd ar Arfordir Sir Benfro.”

I weld rhestr o’r holl ddigwyddiadau ewch i’r calendr digwyddiadau neu mynnwch gopi o Coast to Coast.

Group of people in medieval dress holding bows, swords and shields

Yng Nghastell Caeriw bydd Hanes Atgas yn cael ei gynnal ar 30 Mai, 31 Mai, 1 Mehefin am 11am.  Dysgwch am y pethau na chawsoch chi wybod amdanyn nhw yn y dosbarth drwy’r sgwrs ryngweithiol hon ar gyfer y genhedlaeth iau. Ar gael am ddim gyda thâl mynediad arferol.

Mae Cwmni Theatr y Merrymakers yn cyflwyno diwrnod hwyliog yn llawn arfau gwarchae, chwerthin a hyd yn oed draig yng Nghaeriw ddydd Mercher 1 Mehefin, 10am-4.30pm. Ar gael am ddim gyda thâl mynediad arferol.

Bydd yr anhygoel Bowlore yn dod â’u saethyddion a’u marchogion i Gaeriw ar gyfer Campau Canoloesol rhwng 2-5 Mehefin gydag arddangosfeydd anhygoel a gweithgareddau ymarferol.  Mynediad arferol ynghyd â thâl bach (arian parod) ar gyfer rhai gweithgareddau.

I ddathlu’r Jiwbilî Platinwm, gallwch ddilyn Llwybr y Brenhinoedd a’r Breninesau, a fydd yn eich herio i ddod o hyd i rai o’r brenhinoedd enwocaf o hanes Prydain sy’n cuddio yn y Castell.  £1 y plentyn gan gynnwys gwobr frenhinol, yn ogystal â’r tâl mynediad arferol.

Am fanylion llawn gan gynnwys amseroedd mynediad a phrisiau ewch i wefan Castell Caeriw.

Yng Nghastell Henllys cewch flas o’r Oes Haearn drwy deithio’n ôl mewn amser i Ymuno â’r Llwyth rhwng 11am-12.30pm neu 2.30pm-4pm ar 31 Mai a 2 Mehefin. Bydd y llwyth yn mynd â chi i gyfnod yr Oes Haearn drwy sgyrsiau, arddangosiadau a gweithgareddau ymarferol fel gwneud bara, hyfforddi rhyfelwyr ac adeiladu. Yn addas ar gyfer plant 6-11 oed. £5 yn ogystal â thâl mynediad arferol.

Bydd Gweithdy Tecstilau Hynafol rhwng 11am a 4pm ar 28 Mai yn dysgu technegau tecstilau ein cyndeidiau i greu eich tecstilau cynhanesyddol eich hun. £25 y pen (sy’n addas ar gyfer plant dros 12 oed gydag oedolyn sy’n talu). Yn cynnwys mynediad i’r safle.

Mae Celtiaid Naturiol Greadigol yn cynnig cyfle i oedolion a phlant wneud cerflun neu ddarn o gelf gan ddefnyddio clai a deunyddiau naturiol eraill o’r coetir cyfagos rhwng 10. 30am-12 canol dydd a 2pm-3. 30pm ar 30 Mai. £9 y pen, yn cynnwys tâl mynediad i’r safle.

Yn y Gweithdy Sgiliau Hynafol cewch weld sut oedd pobl yn gwneud rhaff o wahanol ddeunyddiau, y grefft hanfodol o gynnau tân a thechnegau goroesi eraill ar 1 Mehefin rhwng 10. 30am-12. 30pm neu 2pm-4pm. Yn addas ar gyfer plant dros 7 oed gydag oedolyn sy’n talu. £15 (yn cynnwys tâl mynediad i’r safle).

Bydd Goresgyniad Rhufeinig ar y safle ar 3 a 4 Mehefin rhwng 11am a 4.30pm.  Dewch i ddysgu am ffordd y llengoedd Rhufeinig o fyw gyda chrefftau a gweithgareddau.  Arddangosfeydd ar y safle am 12.30pm a 2.30pm.  Oedolyn £10, Consesiynau £8.50, Plant £6.50, Teulu (dau oedolyn a dau o blant) £27.50.

Am fanylion llawn gan gynnwys amseroedd mynediad a phrisiau ewch i wefan Castell Henllys.

Image of an exhibition in an art gallery including various natural history finds and a decal that reads 'On Your Doorstep'

Yn arddangosfeydd Oriel y Parc ceir arddangosfa Ar Garreg y Drws yn oriel Amgueddfa Cymru.  O ysbrydwlithod i ddarnau aur, gadewch i’r darganfyddiadau yn yr arddangosfa hon eich ysbrydoli. Yna byddwch yn barod i wneud rhai un eich hun.  Ar agor bob dydd 10am-4pm.

I’r rhai sy’n awyddus i ymuno yn nathliadau’r Jiwbilî, mae Llwybr Hela’r Corgi yn eich herio i ddod o hyd i’r holl gŵn sydd wedi dianc o gwmpas y gerddi.

Os ydych chi am greu eich coron eich hun yn barod ar gyfer y dathliadau, ymunwch â sesiwn galw heibio Hwyl Jiwbilî’r Frenhines rhwng 11am-3pm 1 Mehefin. £3 y plentyn.

O 11am ar 4 Mehefin bydd Oriel y Parc a Chaffi’r Pererinion yn cynnal Jamborî Jiwbilî, dathliad llawn hwyl i’r teulu cyfan gyda barbeciw, cerddoriaeth fyw, celf a chrefft i blant a gemau ffair traddodiadol. Mynediad am ddim.

Am fanylion llawn gan gynnwys amseroedd agor ewch i wefan Oriel y Parc.

Two handheld echolocators used to detect presence of bats

Os ydych chi’n bwriadu darganfod mwy am fywyd gwyllt bendigedig y Parc Cenedlaethol, bydd Ystlumod Ysblennydd yng Nghastell Caeriw rhwng 8.45pm a 10.30pm ar 30 Mai yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhagor am y creaduriaid swil hyn sy’n dod allan yn y nos a gwrando ar eu synau drwy ein synwyryddion lleoliad.  Oedolion £6, plant £4. Rhaid archebu lle.

I rai sy’n hoff o drychfilod, bydd y Saffari Chwilod yng Ngerddi Coetir Colby rhwng 2pm a 4pm ar 1 Mehefin yn rhoi cyfle i chi grwydro drwy’r coetir, chwilio drwy’r ddôl laswellt neu edrych ar yr hyn sy’n cuddio yn y pwll a’r nant. Cynhelir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. £3 y plentyn.