Mwynhewch gelf a chrefft, dreigiau ac awyr dywyll ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod hanner tymor

Cyhoeddwyd : 10/02/2023

Bydd pob un o dri atyniad ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn agored ar gyfer hwyl hanner tymor yn ystod mis Chwefror, gan gynnig profiadau i’r teulu cyfan a blas ar ddiwylliant a threftadaeth yr ardal.

Bydd arlwy Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc o Benwythnosau Celf a Chrefft am ddim yn parhau rhwng 10am a 4pm bob dydd Sadwrn a Sul yn ystod Chwefror. Bydd hefyd sesiynau am ddim bob dydd rhwng 18 a 26 Chwefror, heblaw am ddydd Mercher 22 Chwefror.

Bydd Coed Cadw yn Oriel y Parc rhwng 11am a 2pm ar Ddydd Mercher 22 Chwefror i roi coeden am ddim i aelwydydd yng Nghymru, fel rhan o gynllun ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’ Llywodraeth Cymru.

Hefyd ar 22 Chwefror, bydd Gweithdy Crefftau Draig Goch arbennig rhwng 11am a 3pm, gan roi cyfle i bobl i alw heibio a pharatoi ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a Gorymdaith Flynyddol y Ddraig drwy greu eich Draig Gymreig eich hun. £3 y plentyn.

Bydd Gorymdaith y Ddraig yn cael ei chynnal eleni ddydd Sadwrn 4 Mawrth am 11am fel rhan o’r dathliadau Gŵyl Ddewi blynyddol, sy’n nodi genedigaeth nawddsant Cymru.

Hefyd mae amrywiaeth o arddangosfeydd am ddim wedi’u trefnu, gan gynnwys Ar Stepen eich Drws, sy’n agored rhwng 10am a 4pm bob dydd yn oriel Amgueddfa Cymru – Museum Wales, sy’n arddangos natur, daeareg ac archeoleg yr ardal.

Am ragor o fanylion gan gynnwys amseroedd agor a gwybodaeth am y digwyddiadau, ewch i wefan Oriel y Parc neu ffoniwch 0137 720392.

Bydd Castell Caeriw yn agored yn ddyddiol o 10.30am tan 3.30pm rhwng 11 a 26 Chwefror. Bydd Ystafell De Nest yn gweini cacennau cartref, diodydd a chiniawau ysgafn ar yr adegau hyn.

Gall plant hefyd gymryd rhan yn Helfa’r Ddraig drwy ddefnyddio ffôn symudol i chwilio o amgylch y castell am yr holl greaduriaid tanllyd. £2 y plentyn ynghyd â’r tâl mynediad arferol.

Ddydd Gwener 24 Chwefror, bydd Coed Cadw yn y Castell rhwng 11am a 2pm i roi coeden am ddim i aelwydydd yng Nghymru, fel rhan o gynllun ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’ Llywodraeth Cymru.

Am fanylion llawn, gan gynnwys prisiau mynediad, amseroedd agor a gwybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i wefan Castell Caeriw neu ffoniwch 01646 651782.

Reconstructed iron age roundhouse with a thatched roof pictured under a starry sky. Location pictured is Castell Henllys Iron Age Village, Pembrokeshire

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn agored bob dydd o 10am tan 4pm rhwng 13 a 26 Chwefror i roi cyfle i gwrdd ag aelodau cyfeillgar y llwyth, lle cewch gyfle i roi cynnig ar ddefnyddio ffon dafl, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol a chael eich peintio mewn patrymau glas prydferth. Mae taith dywys hefyd wedi’i chynnwys yn ein tâl mynediad.

Ddydd Sadwrn 18 Chwefror am 2.30pm cewch gyfle i ddysgu mwy am hanes dillad mewn sgwrs arbennig o dan y teitl The Fabric of Past Lives – Slow Fashion in Prehistory.  Beth oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud dillad yn y gorffennol a sut oeddem yn eu gwisgo, a sut wyddom ni hynny? Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle i wneud rhai pethau a hyd yn oed i wisgo’r dillad. Mae’r gost yn £3, yn ychwanegol at y tâl mynediad arferol.

Bydd y Gweithdy Sgiliau Hynafol rhwng 10.30am a 12.30pm ddydd Mercher 22 Chwefror yn gyfle i ddysgu sut i oroesi yn yr awyr agored, yn yr un ffordd â phobl y cyfnod cynhanes. Dysgwch sut yr oedd ein hynafiaid yn gwneud rhaffau o wahanol ddeunyddiau, y gamp hanfodol o gynnau tân a thechnegau goroesi eraill. £15 y pen (gan gynnwys mynediad i’r safle). Oedrannau 7+ (rhaid i blant 7-16 oed fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu). Archebu ymlaen llaw’n hanfodol.

Dydd Sadwrn 25 Chwefror mi fydd cyfle i wirioni ar Ryfeddodau Awyr y Nos yng Nghastell Henllys rhwng 6.30pm a 7.30pm. Ymunwch â’r storiwraig Alice Courvoisier o amgylch y tân yn y tŷ crwm wrth iddi edrych ar y cytserau, ac adrodd chwedlau gwahanol draddodiadau diwylliannol. Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd cyfle i edmygu awyr y nos ac i ddod i adnabod rhai o’r cytserau. Cofiwch wisgo’n gynnes. Dewch â fflachlamp a sbienddrych. 7 oed a hŷn. Rhaid i blant 7-16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebu ymlaen llaw’n hanfodol. £5 y pen.

Am fanylion llawn gan gynnwys prisiau mynediad, amseroedd agor a gwybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i wefan Castell Henllys neu ffoniwch 01239 891319.

Yn ychwanegol at y digwyddiadau hyn, mae croeso i chi grwydro atyniadau awyr agored y Parc Cenedlaethol ar droed, am ddim. Am ysbrydoliaeth ar ba lwybrau i’w dilyn, ewch i’n tudalen Teithiau Gwe.

Gallwch hefyd hurio cyfarpar symudedd am ddim i’ch helpu ar eich ffordd, gan gynnwys sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn y traethau, gyda rhai ohonynt ar gael i’w hurio nawr. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cadeiriau Olwyn y Traethau.