Map lluniau newydd yn ceisio ysbrydoli rhagor o bobl i archwilio Tyddewi ar droed

Cyhoeddwyd : 16/08/2022

Nod y map lluniau newydd yw ennyn diddordeb ac ysbrydoli ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i archwilio Tyddewi ar droed, a darganfod safleoedd, synau a straeon dinas leiaf Prydain.

Cafodd y map, a gafodd ei ddatgelu yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ar 13 Awst, ei greu gan yr artist o Aberteifi, Hannah Rounding, a greodd y gwaith celf gyda mewnbwn gan bobl leol.

Dywedodd Hannah Rounding:

“Mae’r map yn cynnwys tirnodau adnabyddus fel Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Llys yr Esgob ac Oriel y Parc, ond mae hefyd yn dangos lleoliadau llai adnabyddus fel Pont Penyd, yr Ardd Gymunedol a Baromedr yr RNLI, ochr yn ochr â’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd ar gael yn y ddinas a’r ardal gyfagos.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl wybodaeth leol y mae pobl wedi’i rhannu â mi fel rhan o’r prosiect, sydd wedi ychwanegu cymaint o wybodaeth ychwanegol a fydd, gobeithio, o ddiddordeb i bobl ac yn eu hannog i archwilio mwy o drysorau cudd yr ardal.”

Artist Hannah Rounding and Deputy Mayor of St Davids Cllr Emma Evans unveiling a new map of St Davids outside Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre

Dadorchuddiwyd y map gan yr artist Hannah Rounding a Dirprwy Faer Tyddewi, y Cyng Emma Evans.

I’r rheini nad ydynt yn gallu cerdded yn bell, mae sgwteri symudedd ar gael i’w llogi o Oriel y Parc ac mae’r bws arfordirol y Gwibiwr Celtaidd, sy’n stopio mewn nifer o leoliadau poblogaidd o gwmpas Penrhyn Tyddewi, hefyd yn stopio tu allan i faes parcio Oriel y Parc.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac yn eu rheoli, gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc, gan gynnwys yr amrywiaeth o arddangosfeydd sy’n cael eu harddangos, ewch i wefan Oriel y Parc, anfonwch e-bost  at info@orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.