Mae’r haf wedi cyrraedd Castell a Melin Heli Caeriw gyda theithiau arbenigol godidog

Cyhoeddwyd : 11/06/2021

Mae hi’n argoeli i fod yn haf prysur yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, gyda chyfres o deithiau arbenigol wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.

Mae’r teithiau’n rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn yr atyniad sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd ar agor bob dydd drwy gydol yr haf.

Caiff y teithiau eu cynnal yn ystod yr oriau agor ac fe’u cynigir am ddim gyda’r tâl mynediad arferol. Codir tâl ychwanegol am deithiau gyda’r nos.

Ddydd Mercher 9 Mehefin a dydd Mercher 7 Gorffennaf am 2.30pm, caiff ymwelwyr gyfle i ymuno â thaith dywys am ddim o amgylch yr Ardd Furiog sydd newydd ei hadnewyddu. Cewch gyflwyniad gan dywysydd gwybodus i’r gwelyau o berlysiau coginio, lliwio, meddyginiaethol a phersawrus a chewch gipolwg diddorol ar y defnydd o berlysiau mewn hanes.

Ddydd Sadwrn 19 Mehefin am 2.30pm, cynigir taith Gymraeg o amgylch y Castell yn rhad ac am ddim gyda thocyn mynediad arferol.

I’r rheini sydd â diddordeb yn y gwaith ymarferol o adeiladu castell, cynhelir taith am ddim yn sôn am Gyfrinachau Adeiladu Castell ddydd Mercher 30 Mehefin. Bydd y daith hon yn canolbwyntio ar hen dechnegau adeiladu a nodweddion pensaernïol cudd y caerau hynafol hyn.

Ddydd Sul 4 Gorffennaf, caiff ymwelwyr â’r Castell gyfle i fynd ar daith am ddim i glywed hanes bywyd, carwriaeth a chwedl y wraig brydferthaf yng Nghymru, sef y Dywysoges Nest.

Mae’r teithiau cerdded hynod boblogaidd i chwilota am ysbrydion hefyd yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn, gan roi’r cyfle i ddysgu am ochr dywyll bywyd y Castell. Cynhelir y digwyddiad cyntaf ddydd Mercher 28 Gorffennaf am 7.45pm, yn ogystal â 11 Awst am 7.30pm a 25 Awst am 7pm. Ceir hanesion arswydus a chythryblus am ysbrydion a fydd yn anfon cryd lawr eich cefn.

A ruined castle viewed at twilight across a calm pond

Dylai unrhyw un fyddai’n hoffi crwydro’r Castell ar ôl i’r rhan fwyaf o ymwelwyr fynd adref am y diwrnod ystyried archebu tocynnau ar gyfer Taith Min Nos y Castell. Cynhelir y daith nos Iau 22 Gorffennaf am 8pm, a bydd yn canolbwyntio ar esblygiad Castell Caeriw o’r gaer Geltaidd i’r gaer Ganoloesol, y cadarnle Tuduraidd a’r plasty Elisabethaidd – yn ogystal â hanesion am rai o’i thrigolion enwog a lliwgar.

Rhaid archebu tocynnau mynediad cyffredinol ac ar gyfer y digwyddiadau ar-lein yn www.www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau. Mae’r Castell ar agor rhwng 10am a 4pm, Ystafell De Nest rhwng 11am a 4pm ac mae’r Felin Heli ar agor rhwng 11.30am a 5pm.

I gael rhagor o wybodaeth a rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf a thu hwnt, codwch gopi o Coast to Coast neu ewch i www.castellcaeriw.com.