Mae Marchnad Nadolig Oriel y Parc yn ôl!

Cyhoeddwyd : 28/11/2022

Ydych chi’n chwilio am anrhegion wedi'u gwneud â llaw? Ydych chi eisiau ymuno â hwyl yr ŵyl? Dewch i Dyddewi ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr ar gyfer Marchnad Nadolig Oriel y Parc.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o stondinau anrhegion, bwyd a chynnyrch crefftau lleol. Bydd bwyd Nadoligaidd hefyd ar gael yn y Caffi Pilgrims ar y safle

Dywedodd Claire Bates, Rheolwr Oriel y Parc:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid a busnesau lleol gwych yn ôl i’n Marchnad Nadolig, ar ôl gorfod gosod y stondinau y tu allan y llynedd oherwydd Covid-19.

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn gallu agor ein drysau eto eleni, gan groesawu stondinwyr i’r adeilad a’r iard. Byddwn hefyd yn cynnig amrywiaeth o fwyd a diodydd poeth i’ch helpu i gadw’n gynnes wrth i chi siopa’n lleol.

“Dyma un o nifer o ddigwyddiadau am ddim sy’n cael eu trefnu yn Oriel y Parc ac atyniadau eraill Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel rhan o raglen gymorth Gaeaf Llawn Lles, gan helpu cymunedau ledled y Parc i gadw’n iach y gaeaf hwn.”

Mae amrywiaeth o weithgareddau Nadoligaidd eraill yn cael eu cynnal yn Oriel y Parc rhwng nawr a diwedd mis Rhagfyr, gyda Gweithdai Celf a Chrefft galw heibio am ddim rhwng 10am a 4pm bob dydd Sadwrn a dydd Sul (ac eithrio 3 Rhagfyr, sef diwrnod y Farchnad Nadolig).

Gall teuluoedd hefyd ddilyn Llwybr Dod o Hyd i’r Ceirw bob dydd o ddydd Sadwrn 19 Tachwedd ymlaen am £2 y plentyn, a fydd yn cynnwys gwobr arbennig ar y diwedd.

Bydd blwch post Pegwn y Gogledd hefyd ar gael rhwng dydd Sadwrn 19 Tachwedd a 20 Rhagfyr, gan roi cyfle i bobl bostio eu llythyr at Siôn Corn. Byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd yno’n ddiogel. Yna, gallwch gasglu eich ymateb dri diwrnod ar ôl postio’ch llythyr, ynghyd ag anrheg fach am ddim.

Bydd arddangosfa Ar Eich Stepen Drws hefyd ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm, a allai roi ysbrydoliaeth newydd i chi archwilio’r byd natur, y ddaeareg a’r archaeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas dros gyfnod yr ŵyl.

Cynhelir Marchnad Nadolig Oriel y Parc rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Mae mynediad am ddim a gallwch barcio ym maes parcio Oriel y Parc am ddim hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc, ewch i wefan Oriel y Parc, anfon e-bost i e-bost i info@orielyparc.co.uk neu ffonio 01437 720392.