Mae arddangosfa ffotograffiaeth bwerus yn Oriel y Parc yn canol-bwyntio ar y galwadau i hybu bioamrywiaeth mewn Parciau Cen-edlaethol

Posted On : 07/07/2021

Bydd yr arddangosfa ffotograffiaeth sy’n procio’r meddwl yn gofyn beth gellir ei wneud i adfer ecosystemau iach a thirweddau mwy gwyllt ym Mharciau Cenedlaethol y DU. Bydd yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhydd-ewi o 10 Gorffennaf 2021 ymlaen.

Bydd yr arddangosfa ffotograffiaeth sy’n procio’r meddwl yn gofyn beth gellir ei wneud i adfer ecosystemau iach a thirweddau mwy gwyllt ym Mharciau Cenedlaethol y DU. Bydd yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o 10 Gorffennaf 2021 ymlaen.

Yn yr addasiad hwn o’i arddangosfa deithiol Land/Sea, a hwyluswyd gan Amgueddfa Cymru, mae’r artist o Sir Benfro, Mike Perry, yn troi at berthynas doredig cymdeithas â’r byd naturiol ac yn herio ffyrdd confensiynol o weld ein harfordir a’n cefn gwlad.

Mae ei waith yn taflu goleuni gwahanol ar y delweddau o Barciau Cenedlaethol rydyn ni wedi arfer eu gweld mewn llyfrynnau neu ddarluniau ac mae’n sbarduno trafodaeth am sut i adfer ecosystemau iach a dod â thirweddau mwy gwyllt yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’r arddangosfa hon yn gofyn cwestiynau pwysig ac yn taflu goleuni ar rai o’r heriau mwyaf y mae sefydliadau fel Awdurdod y Parc yn ceisio mynd i’r afael â nhw fel rhan o’u hymateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Er bod camau mawr wedi cael eu cymryd drwy brosiectau cadwraeth fel Gwarchod y Parc a Pwyth mewn Pryd, mae’r materion sydd wedi’u hamlygu yn y delweddau hyn yn dangos bod pob un ohonom ni’n gallu cymryd camau i sicrhau bod tirweddau gwerthfawr fel ein Parciau Cenedlaethol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Eleri Lynn, Pennaeth Arddangosfeydd a Theithiau Rhyngwladol Amgueddfa Cymru: “Mae gennym ni gyfrifoldeb i archwilio’r heriau sy’n wynebu cymdeithas yn yr arddangosfeydd rydym ni’n eu cyflwyno. Drwy weithio gyda Mike Perry, Oriel y Parc a Ffotogallery ar Land/Sea, rydyn ni wedi gwneud hynny.”

Dywedodd Mike Perry: “Mae fy ngwaith yn ceisio herio sut rydym ni’n edrych ar y tir o’n cwmpas ac yn ei ddehongli, gan ddatgelu’r mythau a’r gwrthdaro sy’n digwydd yn yr amgylchedd ar garreg ein drws – does dim angen i chi fynd i’r Arctig i weld y newidiadau sy’n effeithio ar bob un ohonom ni.”

Dywedodd David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery: “Rydw i’n falch iawn bod yr arddangosfa bwysig ac amserol hon yn cael ei dangos yn Nhyddewi ar adeg pan mae materion sy’n ymwneud â chyfrifoldeb amgylcheddol a rheoli tirweddau ac ecosystemau morol y Deyrnas Unedig mewn modd cynaliadwy yn destun pryder mawr i genedlaethau heddiw ac yfory.”

Mae Land/Sea yn cynnwys ffotograffau fforensig iawn o falurion plastig a ganfuwyd o Cuba i Orllewin Cymru. Wedi cael eu trawsnewid gan natur i ffurfiau hardd ond gwenwynig, mae’r gweithiau hyn yn dangos sut mae plastig yn newid ein daeareg ac yn mynd i mewn i’n hecosystemau yn y môr ac ar y tir. Ochr yn ochr â’r ‘tirluniau micro’ hyn mae ffotograffau tirwedd mawr sy’n adleisio lluniau rhamantus o’r aruchel, er bod gwaith Perry yn awgrymu ein bod ni bellach yn ofni beth rydym ni wedi’i wneud i natur yn hytrach na natur ei hun.

Ar gyfer yr arddangosfa hon, mae Perry wedi creu sawl gwaith newydd ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, gan gynnwys: Clefyd Coed Ynn 2020, darlun melancolaidd i’n hatgoffa o’r ‘pandemig arall’ sy’n lledaenu drwy gefn-gwlad Prydain, Gwrych Dryslyd (Hedgerow Confusion) 2020, casgliad o ffotograffau yn tynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar ein coed cynhenid, Draenen Wen wedi’i Malurio 2020 sy’n cyfeirio at ddiwylliant ffermio sydd eisiau natur yn hytrach na gadael iddo ffynnu, Bagiau Gwrtaith wedi’u Losgi (Coch, Gwyn a Glas) 2019, lwmp o blastig wedi toddi ar siâp calon a hwnnw’n awgrymog wleidyddol a Tir Comin 2020, golygfa o fan picnic hyfryd ym Mryniau Preseli y mae’r artist yn awgrymu ei fod wedi’i leoli ar hen dir diwydiannol.

Mae Land/Sea, a fydd yn cael ei arddangos tan 16 Ionawr 2022, yn Arddangosfa Deithiol gan Ffotogallery a luniwyd yn wreiddiol gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, a Ben Borthwick.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel y Parc, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa ewch i www.orielyparc.co.uk/land-sea.

Mike Perry Flip Flop 29