Hwyl Gŵyl y Banc yng Nghastell Caeriw gyda Sandy Bear

Cyhoeddwyd : 20/08/2021

Bydd Castell Caeriw yn gefndir i Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu ddydd Sul 29 Awst 2021, sy’n cael ei drefnu gan yr elusen profedigaeth leol i blant, Sandy Bear. Nod y diwrnod, sydd i’w gynnal rhwng 10am a 4pm ar Ŵyl y Banc, yw codi proffil yr elusen ynghyd â rhywfaint o arian mawr ei angen i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Mae rhaglen gyffrous o weithgareddau yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan Artistic Licence a Tickle Tunes, sesiynau adrodd straeon, gweithgareddau crefft a pherfformiad a gweithdy gan Samba DOC. Am hanner dydd, bydd picnic tedi bêrs yn cael ei gynnal, gyda thaith gerdded o amgylch gweirglodd Castell Caeriw.

Gobeithiwn hefyd y bydd gwasanaethau brys y sir yn mynychu – gyda gwybodaeth am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud ac ambell i weithgaredd gall y teuluoedd eu mwynhau.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael drwy gyfrwng ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Sandy Bear ar Facebook @sandybeadbereavement, Twitter @SandyBearPembs ac ar LinkedIn.

Mae’r digwyddiad wedi derbyn nawdd hael gan nifer o gwmnïau a sefydliadau lleol, gan gynnwys pabell fawr a roddwyd gan Valero Energy. Bydd cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu gan Dragon LNG a Phorthladd Aberdaugleddau, sydd wedi enwi Sandy Bear yn Elusen y Flwyddyn, a byddant yn cynnig cymorth gwirfoddol a nawdd.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw:

“Mae’n bleser bod yn rhan o’r digwyddiad hwn, sy’n addo hwyl i’r teulu cyfan, ynghyd â chyfle i ddysgu am y gefnogaeth anhygoel y mae Sandy Bear yn ei rhoi i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth.

“Mae croeso i bawb ddod draw i’r Diwrnod Hwyl, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymweld â’n calendr digwyddiadau i gadw lle.”

I gael rhagor o wybodaeth am Sandy Bear, ewch i wefan Sandy Bear.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau haf sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw a lleoliadau eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i’n calendr digwyddiadau.