Gwella mynediad yng Nghapel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd

Cyhoeddwyd : 13/09/2021

Mae Capel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd ger Tyddewi wedi gwneud gwaith yn ddiweddar i wella mynediad i’r safle hanesyddol ac ysbrydol pwysig hwn. Mae’r safle wedi’i gysylltu â’r ffigwr Cristnogol o’r 5ed Ganrif, sef Santes Non. Dywedir mai hi oedd mam Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Yn draddodiadol, credir mai’r safle mynediad agored hwn ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, ger dinas Tyddewi, yw man geni Dewi Sant.

Yn ogystal â’r llwybr gwell, sy’n caniatáu mynediad i bobl anabl yn nes at yr adfeilion, bydd bwrdd gwybodaeth ar y safle a fydd yn rhoi gwybodaeth am fywyd Santes Non.

 

Surfaced footpath alongside grassy verge with the sea in the distance

Mae taith sain hefyd ar y gweill gan yr awdur a’r darlledwr Horatio Clare, a fydd yn cynnig profiad sain wrth i chi gerdded o Oriel y Parc i Gapel Santes Non, lle gallwch wrando ar straeon sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd rydych chi’n cerdded drwyddo.

Gobeithir y bydd y gwaith newydd yng nghapel Santes Non yn annog gwerthfawrogiad o’r cyswllt rhwng lleoliad naturiol, gwyllt ac ysblennydd y dirwedd a chysylltiadau ysbrydol arbennig y lle.

Cafodd y prosiect hwn ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’i ariannu gan brosiect Cysylltiadau Hynafol Cyngor Sir Benfro, menter tair blynedd ar gyfer y celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am Gysylltiadau Hynafol, ewch i wefan Gysylltiadau Hynafol

Am ddetholiad o deithiau cerdded mynediad hawdd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ewch i dudalen Llwybrau i Bawb.