Gorymdaith y Dreigiau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd : 22/02/2023

Os ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog o ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, ewch i ddinas leiaf Prydain ddydd Sadwrn 4 Mawrth ar gyfer Gorymdaith flynyddol y Dreigiau.

Mae’r parêd yn cael ei drefnu gan Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Bydd disgyblion o ysgolion lleol ac aelodau gofal yn y gymuned, ynghyd â’u dreigiau disglair, yn cerdded i lawr y Stryd Fawr, gyda band Corfflu Hyfforddiant Awyr Sgwadron 948 Hwlffordd a dinas Tyddewi yn eu cefnogi.

Bydd Maer a Deon Tyddewi hefyd yn ymuno â disgyblion Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Croesgoch a disgyblion ysgol baratoadol breifat Ysgol y Castell, Hwlffordd.

Yn ôl Claire Bates, Rheolwr Oriel y Parc:

“Mae wedi bod yn wych gweld dreigiau anhygoel yn cael eu dylunio yn ystod y gweithdai rhad ac am ddim sydd wedi cael eu arwain gan Elly Morgan – yr artist lleol.

“Gall unrhyw un ymuno â’r orymdaith neu fynd ar y strydoedd i gefnogi’r digwyddiad, a byddem yn annog pawb i wisgo unrhyw beth sy’n dathlu diwylliant Cymru er mwyn helpu i ddechrau penwythnos Dydd Gŵyl Dewi mewn steil.”

Group of children parading through a street holding a dragon sculpture

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Oriel y Parc ar 4 neu 5 Mawrth gael tusw o gennin Pedr yn rhad ac am ddim, gyda nifer cyfyngedig ohonynt hefyd yn cael eu dosbarthu yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys ar y dyddiadau hyn. Bydd pob tusw yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin.

I gael gweld rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Nhyddewi rhwng 18 Chwefror a 4 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi,  ewch i wefan Cyngor Dinas Tyddewi (yn agor mewn ffenestr newydd).

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc, gan gynnwys amserau agor, digwyddiadau ac arddangosfeydd, ewch i wefan Oriel y Parc.