Gorymdaith y Ddraig Oriel y Parc yn llwyddiant ysgubol

Cyhoeddwyd : 14/03/2022

Heidiodd cannoedd o bobl i Dyddewi ar 5 Mawrth braf, i ymuno â strydoedd llawn cerddoriaeth, gorymdeithio a hwyl ar gyfer Gorymdaith y Ddraig 2022.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Dyma’r tro cyntaf ers 2020 i bobl gael bod yn bresennol yn y cnawd, gyda digwyddiad y llynedd yn gorfod cael ei gynnal yn ddigidol oherwydd Covid-19.

Meddai Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates:

“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o’r gymuned leol yn dod at ei gilydd i ymuno yn y dathliad diwylliannol hwn fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

“Roeddem wrth ein bodd yn cael pyped draig goch enfawr Theatr Byd Bychan a Samba Doc yn ymuno â ni i greu awyrgylch carnifal, a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud digwyddiad eleni yn llwyddiant ysgubol.”

Ymunodd plant o Ysgol Penrhyn Dewi VA, Cylch Meithrin Croesgoch ac Ysgol Gynradd Gatholig yr Enw Sanctaidd, Gofal yn y Gymuned Tyddewi a llawer o deuluoedd ac unigolion i fynd am dro drwy ganol dinas leiaf Prydain.

Daeth pobl amlwg lleol, gan gynnwys Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, y Gwir Barchedig Dr Sarah Rowland Jones a Maer Tyddewi, y Cynghorydd Alan York, hefyd i ymuno â’r orymdaith.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac yn eu rheoli, gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc ewch i wefan Oriel y Parc.