Dyddiad i’r dyddiadur – Ymgyrch y Gronfa Green Match ym mis Ebrill

Posted On : 22/04/2022

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ymgyrch Cronfa Green Match y Big Give yn 2021, mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch iawn o gymryd rhan unwaith eto yn 2022, gan dderbyn £2 am bob £1 sy’n cael ei gyfrannu i’w helusen gofrestredig ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynefinoedd mewn dolydd yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gofyn i’w chefnogwyr presennol a darpar gefnogwyr i gyfrannu a dyblu effaith eu rhodd i’w hymgyrch rhwng 22 Ebrill (Diwrnod y Ddaear y Byd) a 29 Ebrill drwy wefan The Big Give.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan: “Bydd pob cyfraniad yn mynd tuag at yr apêl Creu Mwy o Ddolydd i warchod, adfer a chreu dolydd newydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Gyda’ch help chi, ein bwriad yw creu mwy o ddolydd – ein targed yw codi £10,000 i allu creu 77 hectar o ddolydd (neu 191 cae pêl-droed) i geisio gwyrdroi’r effeithiau niweidiol ar rywogaethau a chynefinoedd sy’n dirywio.”

Mae’r DU wedi colli dros 95% o ddolydd blodau gwyllt yn ystod y 75 mlynedd diwethaf a’r dolydd sy’n weddill yw rhai o’r cynefinoedd mwyaf agored i niwed yn y Parc Cenedlaethol; amcangyfrifir bod 30% o garbon tir y byd yn cael ei storio mewn dolydd, sy’n dangos eu pwysigrwydd yn yr argyfwng hinsawdd.

Mae dolydd a meysydd yn darparu hafan heb ei hail i fywyd gwyllt, gan gynnwys miloedd o bryfed, mamaliaid, adar, ymlusgiaid a mwy. Mae’r gwrychoedd sy’n amgylchynu dolydd hefyd yn darparu paill, neithdar, ffrwythau, hadau a lloches i lawer o famaliaid, adar a phryfed.

“Bydd yr ymgyrch yn dechrau am hanner dydd ar Ddiwrnod y Ddaear (dydd Gwener 22 Ebrill) ac yn gorffen wythnos yn ddiweddarach, ddydd Gwener 29 Ebrill am hanner dydd.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

I gyfrannu ar-lein ac i gael gwybod mwy am yr Ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd, ewch i wefan The Big Give.