Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn dychwelyd i Gastell Caeriw

Posted On : 20/07/2022

Bydd Castell Caeriw yn cynnal Diwrnod Hwyl Sandy Bear ddydd Sul am yr ail flwyddyn yn olynol.

Nod y Diwrnod Hwyl yw codi proffil yr elusen profedigaeth i blant, ynghyd â chodi rhywfaint o arian y mae mawr ei angen i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau hwyliog yn cael ei chynnal yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y dydd, gyda rhywbeth sy’n addas i bobl o bob oedran a diddordebau. Bydd yr adloniant yn cynnwys gweithdai cerddoriaeth a dawns gyda Tickle Tunes, adrodd straeon, helfa tedis, cerbydau gwasanaeth brys, cerddoriaeth fyw gan Gôr Vision Arts a Samba Doc, peintio wynebau, ffair hen ffasiwn a swigod enfawr. Bydd hefyd cyfle i gael tynnu llun gyda Sandy Bear ei hun, a helpu i godi arian ar gyfer yr achos arbennig hwn.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Roedd Diwrnod Hwyl Sandy Bear yng Nghaeriw y llynedd yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 100 o blant a’u teuluoedd yn bresennol. Rydyn ni mor falch o allu cefnogi’r elusen ysbrydoledig hon, ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda nhw eto yn y dyfodol.”

Codir tâl mynediad arferol ar gyfer y Castell, a bydd Ystafell De Nest ar agor ar gyfer detholiad o ginio ysgafn a danteithion blasus rhwng 10.30am a 4pm.

Bydd Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw ddydd Sul 24 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Sandy Bear ar Facebook @sandybearbereavement, Twitter @SandyBearPembs ac ar LinkedIn.

I gael rhagor o wybodaeth am Sandy Bear a’r gwaith mae’r elusen yn ei wneud i wella a chryfhau iechyd a llesiant emosiynol pobl ifanc 0-18 oed (a’u teuluoedd) sydd wedi profi marwolaeth rhywun annwyl, ewch i www.sandybear.co.uk.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw a lleoliadau eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod yr haf, ewch i www.arfordirpenfro/cymru/digwyddiadau.

A photo of a family with Sandy Bear