Dirwyon i gamperfans sydd wedi parcio’n anghyfreithlon

Cyhoeddwyd : 22/07/2020

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhoi rhybudd llym i wersyllwyr anghyfreithlon ar ôl rhoi 19 rhybudd tâl cosb y penwythnos hwn yn dilyn llif o wersyllwyr yn aros dros nos mewn sawl maes parcio ledled y sir.

Mae gwersylla gwyllt, boed mewn pabell neu gamperfan, wedi’i wahardd yng Nghymru oni bai fod gennych ganiatâd y tirfeddiannwr. Mae Awdurdod y Parc yn annog pobl i ddefnyddio’r detholiad eang o safleoedd gwersylla dynodedig sydd ar gael yn Sir Benfro.

Ynghyd â pheryglu bywydau pobl drwy achosi problemau mynediad i wasanaethau brys, mae camperfans sydd wedi parcio’n anghyfreithlon wedi achosi problemau eraill dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys taflu sbwriel a phobl yn defnyddio’r Parc Cenedlaethol fel toiled cyhoeddus.

Byddwn yn cadw llygad ar draws y sir y penwythnos hwn i wneud yn siŵr bod pobl yn defnyddio’r safleoedd gwersylla dynodedig yn hytrach na pharcio’n anghyfreithlon yn y Parc.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Roedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn brysur iawn dros y penwythnos gyda phobl yn teithio o bob rhan o’r wlad i fwynhau’r traethau, y golygfeydd a theithiau cerdded. Roedd y rhan fwyaf yn ymddwyn yn dda ac yn dilyn y canllawiau. Fodd bynnag, roedd sawl achos o bobl yn gwersylla’n anghyfreithlon yn y Parc Cenedlaethol, a arweiniodd at roi nifer o ddirwyon.

“Rwy’n annog pobl i barchu’r Parc ac i aros mewn safleoedd gwersylla dynodedig. Mae gennym ddetholiad gwych o safleoedd ar draws y sir, ac o’r penwythnos hwn ymlaen, rydym yn rhagweld y bydd holl gyfleusterau’r safleoedd gwersylla ar agor. Mae hyn yn golygu y gall y rheini sydd am wersylla neu aros dros nos mewn camperfans ddefnyddio’r gwasanaethau hyn ar eu safle gwersylla dewisol.

“Rydyn ni wedi dyheu am yr amser hwn i allu mwynhau mynediad at y gornel brydferth hon yng Nghymru – rhaid i ni beidio â gadael i ymddygiad anghyfrifol rhai pobl ddifetha’r mynediad a’r hwyl i bawb arall.”

Campervan parked near coastline at dusk

Fel rhan o strategaeth twristiaeth pum cam i ymateb i COVID-19, nod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw hybu newid cadarnhaol yn ymddygiad ymwelwyr er mwyn sicrhau dull gweithredu sy’n rhoi ‘natur a’r amgylchedd yn gyntaf’.

Agwedd allweddol ar y strategaeth hon yw canolbwyntio ar ganiatáu i natur barhau i ffynnu fel y mae wedi gwneud o dan y cyfyngiadau symud. Gofynnir i ymwelwyr barchu’r cynnydd mewn gweithgareddau naturiol fel rhan allweddol o’r profiad i ymwelwyr ac i droedio’n ofalus – gan adael prin dim effaith ar y Parc.

I gael gwybodaeth am ymweld â’r Parc Cenedlaethol ac i gael y cyngor diweddaraf am COVID-19, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/coronafeirws.