Diogelwch llithrffyrdd yn dychwelyd mewn ymgais i roi hwb i ddiogelwch dŵr yn Freshwater East

Cyhoeddwyd : 28/05/2021

Mae mesurau i gyfyngu ar lansio cerbydau dŵr personol yn Freshwater East yn cael eu rhoi ar waith eto, wrth i’r ardal baratoi ar gyfer penwythnos prysur Gŵyl y Banc a gwyliau hanner tymor.

Cyflogwyd swyddog diogelwch ar y llithrffordd am y tro cyntaf gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr haf diwethaf, yn dilyn sawl adroddiad ar ddigwyddiadau diogelwch dŵr yn ymwneud â’r cerbydau.

Bydd cyfyngiad ar ddefnyddio’r llithrffordd yn ystod amseroedd brig ar ddyddiadau allweddol o ddiwedd mis Mai tan o leiaf ddiwedd mis Awst, er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau eu hymweliad â’r traeth yn ddiogel. Bydd pobl sy’n lansio cychod a cherbydau eraill yn dal i gael defnyddio’r llithrffordd.

Closed gate on the slipway at Freshwater East

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:

“Rydym yn apelio ar bawb sydd eisiau ymweld â’r Parc Cenedlaethol i gynllunio ymlaen llaw, i droedio’n ofalus a pharchu’r tir, y gymuned a’i gilydd.

“Dim ond un enghraifft yw’r fenter hon lle rydyn ni’n rhoi adnoddau ychwanegol ar waith i helpu i atgyfnerthu’r negeseuon hyn er mwyn i bawb allu mwynhau eu hunain, p’un ai a ydyn nhw’n chwilio am weithgaredd cyffrous neu heddwch a llonyddwch.

“Yn dilyn prawf llwyddiannus y llynedd, rydym yn hyderus y bydd y cynllun hwn yn annog mwy o ddefnyddwyr cerbydau dŵr personol i ddefnyddio mannau lansio addas oddi wrth draethau prysur fel Freshwater East.

“Bydd y swyddog diogelwch hefyd yn gallu tynnu sylw at yr ardal acwabatics ddynodedig ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau a rhoi arweiniad ar sut y gellir tarfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt.”

Bydd y llithrffordd yn Freshwater East, sy’n berchen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dan ofal cynrychiolydd o Diogel Security o ddydd Sadwrn 29 ymlaen.